Mae Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn atgoffa myfyrwyr a staff tymhorol sy’n gweithio yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Fe gaiff pob gweithiwr yr hawl gyfreithiol i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae hyn yn cynnwys staff tymhorol dros dro, sy’n aml yn gweithio ar gytundebau tymor byr mewn bariau, gwestai, siopau a warysau dros yr haf.

Y llynedd, fe wnaeth 155,000 o weithwyr ledled y Deyrnas Unedig adennill dros £16 miliwn mewn cyflog a oedd yn ddyledus iddynt.

Dywed Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi bod angen i weithwyr wirio eu cyfradd cyflog yn ôl yr awr, yn ogystal ag unrhyw gyfraniadau treth neu amser gwaith di-dâl.

Ar hyn o bryd, cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol fesul awr yn dibynnu ar oedran y gweithiwr yw:

£8.91 – 23 oed neu’n hŷn (Cyflog Byw Cenedlaethol).

£8.36 – 21 i 22 oed.

£6.56 – 18 i 20 oed.

£4.62 – o dan 18 oed.

£4.30 – Prentis.

“Helpu cyflogwyr os nad ydynt yn siŵr o’r rheolau”

“Rydym am sicrhau bod gweithwyr tymhorol a myfyrwyr Cymru yn cael y tâl y mae ganddynt hawl iddo ac, wrth i’r economi ailagor, helpu cyflogwyr os nad ydynt yn siŵr o’r rheolau,” meddai Steve Timewell, Cyfarwyddwr Cydymffurfiad Unigolion a Busnesau Bach, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

“Dylai gweithwyr wirio eu cyfradd fesul yr awr a gofalu am unrhyw gyfraniadau neu amser gwaith di-dâl a fyddai’n gostwng eu cyflog. Gallai hynny beri iddynt ennill llai na’r isafswm cyflog.

“Mae Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ymchwilio i bob cwyn a wneir ynghylch yr isafswm cyflog, felly p’un a ydych yn gwerthu eli haul, yn glanhau ystafell mewn gwesty, neu’n gweini ysgytlaeth ffrwchnedd, os ydych yn meddwl eich bod yn cael llai o dâl nag y dylech, cysylltwch â ni.”