Roedd merched gyda babis a phlant ymhlith 56 o fudwyr oedd yn cael eu cadw mewn stafell fechan mewn amodau “gwarthus” yn Dover, mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi clywed.

Mae Priti Patel wedi derbyn llythyr gan Yvette Cooper, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, sy’n codi “pryderon difrifol” yn dilyn ymweliad Aelodau Seneddol a’r uned yng Nghaint.

Yn ogystal â’r pryderon am orboblogi, mae’r pwyllgor yn dweud eu bod yn “bryderus iawn” am y risg o ledaenu Covid-19.

Yn y llythyr dywed Yvette Cooper bod yr ystafell lle mae ceiswyr lloches yn aros ar gyfer cael eu sgrinio yn “hollol anaddas”.

“Ddoe, roedd 56 o bobl wedi’u gwasgu mewn stafell aros fechan. Mae’r gofod yn amlwg yn hollol anaddas ar gyfer cymaint o bobl.”

Ychwanegodd bod matresi tenau yn gorchuddio’r llawr a bod nifer o fenywod gyda babis a phlant ifanc iawn yn rhannu’r amodau yma ynghyd a nifer o ddynion ifanc a rhai yn eu harddegau.

Yn ogystal meddai Yvette Cooper, roedd rhai yn cael eu cadw yn yr ystafell am gyfnodau o hyd at 36 a 48 awr, er bod cyfarwyddyd na ddylai unigolyn dreulio mwy na 24 awr yno.