Mae Aelod o’r Senedd Llafur wedi beirniadu’r heddlu am y modd y gwnaethon nhw ddelio gyda phrotestiadau y tu allan i gartref y Prif Weinidog, Mark Drakeford dros y penwythnos.

“Doedd yr Heddlu heb ymdrin â’r sefyllfa mor ddifrifol ag y byddwn wedi hoffi iddyn nhw,” meddai Mike Hedges, Aelod o’r Senedd Llafur dros Ddwyrain Abertawe wrth Golwg360.

“Ni’n sôn fan hyn am yr un fath o bobl a wnaeth dorri fewn i’r Gyngres yn America eleni, y rhai a wnaeth losgi’r Reichstag, dyma’r adain dde eithafol sydd â chasineb at bopeth.

“Ac mae’r Heddlu yn eu trin fel grŵp o bobl sydd am fynd i weiddi a chreu twrw yn hytrach na’u trin fel y grŵp peryglus ydyn nhw.”

“Yr hyn sy’n fy mhoeni yw dydy’r Heddlu ddim yn eu cymryd o ddifrif.

“Mae’r heddlu wedi methu. Dydyn nhw ddim yn deall yr asgell dde eithafol yn y wlad hon.

“Mae angen iddyn nhw fynd i’r afael â’r bobl hyn sy’n cymell pobl i dorri’r gyfraith.”

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad oedd y prif weinidog dan unrhyw fygythiad ar unrhyw adeg yn ystod protest y tu allan i’w gartref ac nad oedd ganddynt unrhyw bryderon am ei “ddiogelwch” yn ystod y gwrthdystiad.

Daw sylwadau’r Heddlu wedi i Mike Hedges alw ar y prif gwnstabl i ymddiheuro neu ymddiswyddo.

Dywedodd dros wefannau cymdeithasol: “Ai fi yw’r unig un sy’n meddwl a fyddai Heddlu’r De mor hunanfodlon pe bai grŵp yn ymgynnull y tu allan i dŷ’r prif gwnstabl”.

Gwleidyddion yn anniogel

“Dw i’n credu bod cerdded y tu allan i dŷ Mark Drakeford yn hollol dderbyniol, ac mae gweiddi wrth basio, mae modd cyfiawnhau hynny,” meddai Mike Hedges.

“Mae’n rhan o’r traddodiad da yn y wlad hon o hawl pobl i orymdeithio.

“Ond, mae stopio, ymgynnull a bygwth – dydy hynny ddim yn dderbyniol.

“Mae’r un sefyllfa yn Llundain pan fu brotestiadau a phobl yn gweiddi i wrthwynebu doctoriaid a nyrsys.”

“Mae pob gwleidydd nawr yn gwybod nad yw’r Heddlu yn mynd i roi’r lefel o gefnogaeth y byddai’r rhan fwyaf o wleidyddion yn hoffi cael.”

‘Cartref swyddogol yn ddiangen’

Mae’r drafodaeth wedi codi cwestiynau am yr angen am gartref swyddogol i Brif Weinidog Cymru.

Ar hyn o bryd mae gan Brif Weinidog yr Alban, Bute House yng Nghaeredin a Phrif Weinidog Prydain Rhif 10 Downing Street yn Llundain a chartref Chequers yn Swydd Buckingham.

Eisoes mae’r cyn-brif weinidog, Carwyn Jones wedi dweud nad oes cartref swyddogol ac mae arweinydd y ceidwadwyr Andrew RT Davies wedi dweud fod y syniad yn gor-ymateb i’r sefyllfa.

Ond mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru dros Ynys Môn yn cefnogi’r galwadau am gartref swyddogol: “Heb os, dylai Cymru gael cartref swyddogol i brif weinidog fel bron i bob gwlad arall.”

Fe ddywedodd Mike Hedges y byddai cael presenoldeb swyddog yr heddlu fod yn gam digonol.

“Byddai cael swyddog heddlu y tu allan i ddrws y Prif Weinidog yn help,” meddai.

“Pe byddai cartref swyddogol gan y prif weinidog, beth fyddai wedi cael ei wneud yn wahanol? Fe fydden nhw wedi ymgynnull y tu allan i’r cartref hwnnw ble byddai’r prif weinidog wedi bod gyda’i deulu.

“Os unrhyw beth mi fyddai wedi gwneud e’n haws iddyn nhw gan y byddai pawb yn gwybod am y cartref swyddogol.

“Mae hynny ond yn symud y broblem yn hytrach na mynd i’r afael â hi.”

Mae’r Athro Laura MacAllister o Brifysgol Caerdydd yn dweud na fyddai’r ddadl o blaid cartref swyddogol yn ennill llawer o gefnogaeth ar lawr gwlad hyd yn oed os oes “dadl gref oherwydd rhesymau diogelwch”.

 

Protestwyr wedi ymgynnull ger cartref Prif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd

Mae llawer ar y cyfryngau cymdeithasol wedi galw eu gweithredoedd yn “idiotig”.