Mae gwerthiant ceir SUV (Sports Utility Vehicle) newydd Aston Martin wedi helpu i gwtogi eu colledion a chwyddo eu hincwm.
Collodd y cwmni bron i £91 miliwn yn ystod chwe mis cyntaf 2021, o gymharu â dros £227 miliwn yn yr un cyfnod yn 2020.
Cafodd 1,500 o geir SUV newydd Aston Martin – y DBX – sy’n cael eu cynhyrchu yn Sain Tathan, eu gwerthu yn y cyfnod hwnnw.
Roedd hyn yn golygu mai model DBX oedd dros hanner y ceir a gafodd eu gwerthu gan Aston Martin yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn.
Cyfrannodd hynny tuag at gynyddu refeniw’r cwmni dros 240% i £499 miliwn, meddai’r cwmni heddiw (28 Gorffennaf).
“Pan wnes i ymuno ag Aston Martin ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd rhaid i fi feddwl am gerrig milltir yr oedd angen eu cyrraedd er mwyn gosod y sylfaen iawn ar gyfer llwyddiant y cwmni yn y dyfodol,” meddai cadeirydd gweithredol y cwmni, Lawrence Stroll.
“Rydyn ni wedi cyrraedd y rhain i gyd, o apwyntio tîm arweinyddol o safon fyd-eang i ail-gydbwyso’r berthynas rhwng y cyflenwad a’r galwad yn llwyddiannus, a chryfhau gwydnwch ariannol hollbwysig y busnes.”
“Chwe mis cadarn”
Mae SUV’s wedi bod yn gynyddol boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf.
Tua degawd yn ôl dim ond un ymhob deg car newydd oedd yn cael eu gwerthu yn y Deyrnas Unedig oedd yn SUV’s, ond erbyn heddiw mae hynny wedi cynyddu i bedwar ymhob deg, yn ôl ystadegau gan y New Weather Institute.
Mae’r datblygiad yn un sy’n poeni ymgyrchwyr amgylcheddol, gyda’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn rhybuddio fod y cynnydd mewn ceir mawr llynedd wedi golygu eu bod nhw’n defnyddio’r holl danwydd oedd yn cael ei arbed pan newidiodd gyrwyr eraill i geir trydan.
“At ei gilydd, roedden nhw’n chwe mis cadarn i’r gwneuthurwr ceir moethus, ond mae’r grŵp ymhell o allu mynd i cruise control,” meddai Laura Hoy, Dadansoddwr Ecwiti gyda Hargreaves Lansdown.
“Heb amheuaeth, mae Aston Martin tu ôl y tueddiad gyda’i strategaeth cerbydau trydan, marchnad sy’n debygol o ddod yn rhan mwy o’r maes wrth i amser fynd yn ei flaen.”