Mae lansio SUV newydd wedi adfywio gwerthiant yn Aston Martin, gan ei roi ar y trywydd iawn i werthu mwy o geir eleni nag yn 2019.

Cafodd mwy na 1,350 o’r cerbydau moethus, sy’n cael eu cynhyrchu yn Sain Tathan, eu prynu gan gwsmeriaid yn nau fis cyntaf eleni, dywedodd y cwmni wrth gyfranddalwyr ddydd Iau (Mai 6).

Mae hynny’n cymharu â dim ond 578 yn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Fwy neu lai, roedd y cynnydd cyfan i lawr i SUV cyntaf erioed y cwmni, a lansiwyd y llynedd.

Gwerthodd y cwmni dros 740 o fodelau Aston Martin DBX gan ffurfio 55% o’r holl werthiannau yn nau fis cyntaf y flwyddyn.

Dywedodd y prif weithredwr Tobias Moers: “Rwy’n falch o’n perfformiad yn nau fis cyntaf y flwyddyn, gan sicrhau canlyniadau yn unol â’n disgwyliadau o dwf da a chynnydd ar y llwybr at well elw a chynhyrchu arian.”

Cafodd Aston Martin drafferth gwerthu ceir y llynedd, gyda’r nifer o geir a werthwyd yn gostwng 42% i ddim ond 3,394 dros y 12 mis.

Ond mae’r cwmni’n dweud ei fod ar y trywydd iawn i werthu tua 6,000 o geir eleni.

Mae’n disgwyl i hyn godi i tua 10,000 o gerbydau yn 2024, a bydd yn gwneud £2 biliwn mewn refeniw y flwyddyn honno, yn ôl y bwrdd.

Cyrhaeddodd refeniw £224.4 miliwn yn chwarter cyntaf 2021, cynnydd o 153%, gyda cholled cyn treth yn gostwng o £110.1 miliwn i £42.2 miliwn.