Dim ond traean o bobl ym Mhrydain sy’n ymddiried yng ngwefannau cymdeithasol fel ffynhonnell newyddion, yn ôl adroddiad blynyddol gan y rheoleiddiwr Ofcom.

Mae 33% yn dweud bod newyddion ar gyfryngau cymdeithasol yn ddibynadwy o gymharu â 67% sy’n dweud hynny am bapurau newydd a 68% ar gyfer newyddion ar y teledu.

Facebook sy’n cael ei ystyried fel y platfform sydd yn lleiaf dibynadwy o ddarparu newyddion ar-lein, gyda dim ond 27% yn dweud eu bod yn ymddiried yn y cyfrwng fel ffynhonnell newyddion.

Yn ôl Huw Marshall, sy’n ymgynghorydd digidol, mae yna “ddyletswydd foesol” ar gwmnïau i ddileu newyddion ffug ar-lein.

“Mae’r ffaith i natur gwefannau cymdeithasol newid dros y blynyddoedd yn bwysig nodi,” meddai wrth Golwg360.

“Yn wreiddiol roedd Facebook i fod yn gyfrwng i rannu lluniau a chysylltu â phobl ond nawr mae e wedi troi’n blatfform ble mae newyddion yn rhan o’r cynnwys hwnnw.

“Ac mae yna ddyletswydd foesol ar y cwmnïau hyn i weithredu. Ar bapur maen nhw’n dweud eu bod nhw yn erbyn newyddion ffug ond maen nhw’n araf iawn yn cau’r sgyrsiau yma i lawr a chael gwared ar newyddion ffug.”

Newyddion ffug a Covid-19

Mae’r adroddiad gan Ofcom yn nodi fod 73% o bobl yn ystyried y teledu yn ‘gyfrwng da i ddarparu newyddion am Covid-19’ gyda 69% yn credu’r un peth ar gyfer papurau newydd, 59% ar gyfer y radio, ond 41% ar gyfer gwefannau cymdeithasol.

“Ar y cyfan mae pobl yn ymddiried yn y newyddion ond mae pobl yn fodlon iawn i rannu pethau heb wirio’r ffeithiau.

“Ond y gwahaniaeth gyda newyddion ffug yw bod e wedi ei greu gan fod yna agenda tu nol iddo fe.

“Mae pobl yn barod iawn i’w gredu ac fe welwn ni enghraifft o hyn gyda phrotestiadau yn erbyn protestiadau gwrth-Covid-19 ar sgwâr Trafalgar yn Llundain dros y penwythnos ble mae pobl yn gwthio agenda ac mae’n bwydo ar baranoia rhai.”

Angen gweithredu

Wrth siarad â Golwg360 fe ddywedodd Owen Williams sy’n arbenigwr ar wefannau cymdeithasol fod yna ddwy ffordd o fynd i’r afael ag ymddiriedaeth bobl mewn newyddion ar-lein.

“Ar un llaw mae angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael â hyn ac ar y llaw arall mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel unigolion i wella ein gafael ni ar yr hyn sy’n wirioneddol gywir.

“Mae angen mwy o addysg arnom ni ac ymgyrchoedd cyhoeddus.

“Wrth i rywun bostio newyddion ffug mae’n cael ei rannu gan fwy o bobl ac felly mae pobl yn meddwl fod y newyddion hynny yn ddibynadwy ac yn gredadwy, ond dydy hynna ddim yn wir.

“Mae angen mwy o addysg ar ein disgyblion o sut i ddehongli ffynhonellau ac mae angen i hynny ddechrau yn yr ysgolion cynradd a bod hynny’n rhan annatod o’r cwricwlwm.”