Bydd dadansoddiadau ar sail data economaidd rhanbarthol a sectoraidd newydd yn arwain adferiad Cymru yn dilyn Covid-19, yn ôl Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR).
Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu cydweithio gyda’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o fenter i ddatblygu gwell dealltwriaeth o economïau rhanbarthol y Deyrnas Unedig.
Y bwriad yw cyhoeddi adroddiad chwarterol, fydd yn canolbwyntio’n benodol ar economi Cymru, o hydref 2021 ymlaen.
Yn ôl yr ymchwilwyr byddai hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i academyddion a llunwyr polisïau o’r heriau sy’n wynebu Cymru.
“Ni allai’r amseru fod yn well i Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol estyn allan o San Steffan i ranbarthau’r Deyrnas Unedig drwy weithio mewn partneriaeth â ni yma yng Nghaerdydd,” meddai’r Athro Huw Dixon, Pennaeth Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd sy’n Arwain Ymchwil Mesur yr Economi yn NIESR.
“Mae’n golygu y bydd yr heriau unigryw sy’n wynebu Cymru yn rhan annatod o’u gwaith ar economi’r Deyrnas Unedig.
“Y safbwynt rhanbarthol, manwl ond cynnil hwn sydd wedi bod yn hanfodol i ddeall effeithiau cymdeithasol ac economaidd Covid-19.
“O ganlyniad i’n partneriaeth mae’n safbwynt y byddwn yn ei gadw wrth inni ragweld y bydd adferiad yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”
‘Gwell ddealltwriaeth’
Ychwanegodd yr Athro Jagjit Chadha OBE, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Mae gwersi’r ychydig o flynyddoedd diwethaf wedi ein haddysgu bod gwell dealltwriaeth o’n heconomïau rhanbarthol a datganoledig yn hanfodol.
“Mae’r darlun macro economaidd ar y lefel uchaf yn aml yn cuddio cryn nifer o wahaniaethau rhanbarthol a dylai dadansoddiad mwy manwl ein galluogi i wneud asesiadau mwy manwl-gywir o’r rheidrwydd o ran polisïau.
“Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i greu gwell darlun o’r economi, ac yn benodol felly sut i ddatblygu ymwybyddiaeth ddyfnach o economi Cymru a sut mae hyn yn berthnasol i naratif polisïau economaidd a chymdeithasol ar y lefel genedlaethol.”