Mae gan fwy na thraean o oedolion canol oed nifer o broblemau iechyd ac mae’r tueddiad yn gwaethygu, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Roedd astudiaeth wedi canfod bod 34% o bobl rhwng 46 a 48 oed a dau neu fwy o gyflyrau iechyd hir dymor, gydag o leiaf un yn ymwneud ag iechyd corfforol. Mae’r rhai yn cynnwys poen cefn cronig, problemau iechyd meddwl, pwysedd gwaed uchel, clefyd y siwgr, asthma a gor-yfed.
Yn ôl yr astudiaeth a gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn BMC Public Health, roedd pobl o deuluoedd difreintiedig 43% yn fwy tebygol o fod a phroblemau iechyd hir dymor yn eu 40u o’i gymharu â rhai o deuluoedd mwy cefnog.
Roedden nhw hefyd 3.5 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef salwch meddwl ac arthritis.
Roedd arbenigwyr hefyd wedi darganfod cysylltiad rhwng pobl ifanc yn cael problemau yn ystod eu plentyndod, fel bod yn ordew, a phroblemau iechyd cronig mewn canol oed.
Dywedodd awdur yr adroddiad Dr Dawid Gondek o Brifysgol Coleg Llundain (UCL): “Mae’r astudiaeth yma yn darparu tystiolaeth newydd bryderus ynglŷn â chyflwr iechyd y genedl mewn canol oed.
“Mae’n dangos bod cyfran sylweddol o’r boblogaeth eisoes yn dioddef o nifer o broblemau iechyd corfforol a meddyliol yn eu 40au hwyr, a hefyd yn amlygu’r anghydraddoldebau iechyd sy’n dechrau yn fuan iawn mewn plentyndod.”