Mae disgwyl i Loegr agor ei ffiniau i ganiatáu i deithwyr o’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn erbyn Covid-19 ddod i mewn i’r wlad heb fod angen hunanynysu, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl i’r cynlluniau gael eu trafod gan weinidogion ddydd Mercher (28 Gorffennaf), yn ôl The Guardian a The Times.

Ychwanegodd The Guardian fod disgwyl trafodaethau hefyd rhwng swyddogion Whitehall a’r Llywdoraethau datganoledig ynghylch a fyddai’r newid yn berthnasol i Loegr yn unig, neu bedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Gallai’r newidiadau gael eu cyflwyno mor fuan â’r wythnos nesaf, tra gellid caniatáu i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau deithio heb reolau cwarantin yn ddiweddarach, ychwanegodd The Times.

Daw hyn ar ôl i gwmnïau hedfan honni bod cyfnod prawf wedi dangos y gall y Deyrnas Unedig eithrio ymwelwyr o’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau rhag hunanynysu mewn modd diogel.

Angen “ailagor ei ffiniau’n ddiogel”

Dywedodd Maes Awyr Heathrow, British Airways a Virgin Atlantic fod eu cynllun peilot 10 diwrnod yn profi bod modd gwirio statws brechu teithwyr yn effeithiol ac yn gywir.

Cyflwynodd tua 250 o deithwyr oedd wedi’u brechu’n llawn ar hediadau o Efrog Newydd, Los Angeles, Jamaica ac Athen yn gynharach y mis hwn eu tystiolaeth gan ddefnyddio fformatau papur neu ddigidol cyn mynd ar yr awyren.

Cafodd tua 99% o’u dogfennau eu cadarnhau fel rhai dilys, gyda dim ond dau deithiwr wedi’u gwrthod.

Mewn un achos roedd anghysondeb rhwng yr enw ar y cerdyn brechlyn a’r enw ar y pasbort, tra bod un arall yn cynnwys rhywun a oedd wedi cael ei frechu’n llawn lai na 14 diwrnod cyn teithio.

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi ymrwymo i adolygiad ffurfiol o’i rheolau ar gyfer teithwyr yn dod i mewn i’r wlad cyn dydd Sul (1 Awst).

Yn ôl prif weithredwr BA, Sean Doyle, mae’r cyfnod prawf yn darparu “y dystiolaeth sydd ei hangen ar y Llywodraeth” i ganiatáu i ymwelwyr sydd wedi’u brechu’n llawn o wledydd risg isel ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig heb hunanynysu.

“Mae angen i’r Deyrnas Unedig ailagor ei ffiniau’n ddiogel cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod anwyliaid yn gallu gweld ei gilydd eto, bod busnesau’n gallu ffynnu a bod Prydain fyd-eang yn gallu manteisio ar raglen frechu’r Deyrnas Unedig sy’n arwain y byd.”