Mae disgwyl y bydd penderfyniad ar gais i ychwanegu ardal cloddio llechi Gogledd-orllewin Cymru i restr Safle Treftadaeth y Byd UNESCO heddiw (dydd Mercher, 28 Gorffennaf).
Pe bai’r enwebiad yn cael ei dderbyn, dyma fyddai’r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru.
Y safleoedd eraill yng Nghymru yw Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.
Roedd yr ardal – sy’n ymestyn drwy sir Gwynedd yng Nghymru – yn arwain y byd o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn ystod y ddeunawfed ganrif.
Erbyn y 1890au, roedd y diwydiant llechi’n cyflogi tua 17,000 ac yn cynhyrchu 485,000 tunnell o lechi’r flwyddyn.
Roedd llechi o Gymru yn cael eu defnyddio ar nifer o adeiladau, terasau a phalasau ar draws y byd, gan gynnwys Neuadd San Steffan, yr Adeilad Arddangos Brenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd y Ddinas Copenhagen, Denmarc.
‘Balchder’
Wrth siarad â rhaglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru, dywedodd cyn-geidwad Amgueddfa Lechi Llanberis, Dafydd Roberts: “Dyw’r diwydiant llechi ddim yn rhan o dreftadaeth yn unig, ond mae o’n rhan byw o ddiwylliant yr ardal heddiw.
“Byddai (Safle Treftadaeth Byd UNESCO) yn golygu bob math o bethau.
“Dw i’n credu o safbwynt y bobol sy’n byw yn y bröydd yma, mae o’n mynd i helpu pobol leol i amgyffred y balchder sydd yna yn nhreftadaeth a hanes y diwydiant anhygoel yma.
“Mae hwn yn hanes byd eang, hynny yw mae o’n hanes sy’n perthyn i’r ardal yma ond mae o’n hanes sydd wedi lledaenu ar draws y byd o safbwynt dylanwad llechi Cymru ar bensaernïaeth ac ar ddatblygiad y diwydiant llechi mewn gwledydd eraill.
“A hefyd o safbwynt allforio’r bobol a’r sgiliau sydd wedi bod o’r bröydd yma ar draws y byd.”
‘Cydnabyddiaeth’
Wrth gyflwyno’r cais, dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydyn ni wrth ein bodd fod Tirwedd Llechi Gogledd Cymru’n cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y Deyrnas Unedig ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd.
“Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol sy’n haeddu cael ei dathlu.
“Mae’r enwebiad hwn yn rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i’r tirwedd eithriadol hon – sydd wedi’i gwreiddio yn ein daeareg a’n diwylliant ni, ond sy’n arwyddocaol yn fyd-eang.”