Mae cwmni gwyddorau bywyd yn bwriadu creu 250 o swyddi newydd mewn safle newydd yng Nghaerdydd fel rhan o fuddsoddiad gwerth £36m.
Fe fydd safle newydd Cytiva ger safle presennol y cwmni yn ardal Coryton yng Nghaerdydd. Fe fyddan nhw’n cynhyrchu nwyddau ar gyfer cwmnïau fferyllol sy’n cynhyrchu meddyginiaethau fel y brechlynnau Covid-19 a therapïau canser.
Mae disgwyl i’r nwyddau cyntaf gael eu cynhyrchu yn ddiweddarach eleni ac fe fyddan nhw’n cyflenwi cwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Mae Cytiva, GE Healthcare Life Sciences gynt, wedi bod yng Nghaerdydd ers 1981 ac yn cyflogi 320 o bobl ar hyn o bryd.
Fe fydd y swyddi newydd yn bennaf yn yr adran weithgynhyrchu, yn ogystal â swyddi gwyddonwyr ym maes ymchwil a datblygiad.