Fe fydd merch 16 oed yn mynd gerbron llys ieuenctid heddiw (Dydd Mercher, 28 Gorffennaf) ar gyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae’r ferch, na ellir cyhoeddi ei henw oherwydd ei hoedran, yn un o dri o bobl sydd wedi’u cyhuddo yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd wythnos ddiwethaf.

Cafodd ei harestio yn ardal Creigiau yng Nghaerdydd nos Lun (26 Gorffennaf) a’i chadw yn y ddalfa.

Mae dyn 54 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn yr ymosodiad tua 1yb ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf, meddai Heddlu De Cymru.

Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Fe fydd y ferch yn mynd gerbron Llys Ieuenctid Caerdydd heddiw, tra bod dau ddyn – Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36, y ddau o Gaerdydd – wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun ar gyhuddiad o geisio llofruddio.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fydd y gwrandawiad nesaf ym mis Awst.

Apel am wybodaeth

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stuart Wales: “Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cyfraniad gwerthfawr wrth i ni barhau i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad yma.

“Tra bod cyhuddo trydydd person yn ddatblygiad hynod o bositif rydym yn parhau i apelio am wybodaeth.

“Yn benodol ry’n ni eisiau clywed gan unrhyw un oedd ym Mharc Bute yn ystod oriau man fore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf. Ry’n ni eisiau siarad gydag unrhyw un oedd wrth ymyl pont droed y Mileniwm sy’n cysylltu Parc Bute a Gerddi Soffia, rhwng hanner nos a 1.20yb.”