Mae tribiwnlys meddyg o’r Fenni yn Sir Fynwy a gynigiodd driniaeth hormonau i blant ac sydd wedi’i chyhuddo o fethu â darparu gofal clinigol da i gleifion yn parhau heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 28).
Aeth Dr Helen Webberley, sylfaenydd clinig trawsrywiol ar-lein GenderGP, gerbron gwrandawiad y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) ym Manceinion trwy gyswllt fideo ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 27).
Mae cyhuddiadau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn ei herbyn yn cynnwys ei bod wedi methu â darparu gofal clinigol da i dri chlaf sy’n blant cyn rhagnodi triniaeth testosterôn ac, mewn un achos, triniaeth atal glasoed yn 2016.
Caiff Dr Helen Webberley, sy’n hanu o’r Fenni yn Sir Fynwy, ei disgrifio fel “prif ddarparwr” gwefan Meddyg Teulu Rhywedd, a dywed y Cyngor Meddygol Cyffredinol ei bod yn cynnig triniaeth hormonau i blant heb gyfeirio at fewnbwn unrhyw arbenigwr pediatrig neu bolisi diogelu.
Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Dr Helen Webberley yn datgan bod dull gweithredu’r clinig ar-lein yn cael ei “ysgogi gan ymdrechion i osgoi fframwaith rheoleiddio’r Deyrnas Unedig”.
Mae’r 29 cyhuddiad hefyd yn cynnwys honiadau wnaeth hi am fod yn aelod o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) ac ymdrechion “rhwystredig” gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i adolygu ei harferion rhagnodi ar-lein.
Cafodd Dr Helen Webberley ddirwy o £12,000 yn 2018 ar ôl cael ei chyhuddo o redeg asiantaeth feddygol oedd heb gael ei chofrestru.
Dywed Ian Stern QC, sy’n cynrychioli Dr Helen Webberley, ei bod wedi cyfaddef cyhuddiadau yn ymwneud â’i chyhuddiad yn 2018 a chyfaddef cyflwyno datganiad tyst wedi’i lofnodi oedd yn dweud ei bod wedi bod yn aelod o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ers 1996.
Fodd bynnag, dywed nad yw’n derbyn yr un o’r cyhuddiadau eraill.
‘Arbenigedd a hyfforddiant’
Dywedodd Simon Jackson QC, sy’n cynrychioli’r GMC, fod Dr Helen Webberley wedi sefydlu ei hun fel meddyg teulu ar-lein gyda “diddordeb arbennig” mewn darparu gofal meddygol i gleifion trawsryweddol yn breifat.
Dywedodd nad oedd y tribiwnlys yn ymwneud â dull meddygon sy’n darparu nadwyr glasoed a thriniaethau hormonau i gleifion trawsrywiol ond ei fod yn canolbwyntio ar p’un a oedd Dr Helen Webberley yn ddigon cymwys a phrofiadol.
“Un o’r materion i’r tribiwnlys ei ystyried yw, nid a yw Dr Helen Webberley yn ystyried ei hun fel arbenigwr rhyw ai peidio, ond a oes eraill a fyddai’n ystyried bod ganddi’r safon angenrheidiol honno o arbenigedd a hyfforddiant,” meddai.
Mae disgwyl i’r tribiwnlys bara tan fis Hydref.