Mae gŵr 48 oed o Gaergybi wedi cael ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar am ddynladdiad dyn 58 oed.

Bu farw David John Jones yn yr ysbyty yn Stoke, ddau ddiwrnod ar ôl ymosodiad yn ardal Stryd Thomas ar Dachwedd 17.

Roedd wedi dioddef anafiadau mor ddifrifol fel nad oedd ei ferch ddim wedi adnabod ei thad pan aeth i’w weld yn yr ysbyty.

Plediodd Gareth Wyn Jones, 48 oed o Lôn Deg yng Nghaergybi, yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i ddynladdiad.

Ddydd Mawrth (Gorffennaf 27), clywodd Llys y Goron Caernarfon fod David Jones wedi ymweld â’i gyn-bartner Jane Elizabeth Mitchell yn ei fflat ar noson yr ymosodiad.

Dywedodd David Elias QC, ar ran yr erlyniad, fod eu merch wedi marw ychydig fisoedd ynghynt, ac nad oedd David Jones yn ymdopi’n dda gyda’i marwolaeth.

“Dwi wedi fy chwalu hebddo fo”

Dywedodd ei ferch Amy Jones mewn datganiad a gafodd ei ddarllen ar ei rhan fod ei phlant, “ei wyrion a’i wyresau, wedi’u dryllio”.

“Mae’r ieuengaf yn gwrthod cysgu os nad yw’n cael gwisgo siwmper fy nhad,” meddai.

“Dw i’n dal i gerdded heibio bwthyn fy nhad, ond does yna ddim goleuadau, dim ond tywyllwch.

“Dyna sut mae fy nghalon yn teimlo.

“Y tro diwethaf i mi ei weld, rhoddodd ei ben ar fy ysgwydd a chrïo mewn poen.

“Rhoddais nodyn yn ei boced wrth i’r ambiwlans fynd â fo, yn dweud nad oeddwn i’n gallu dod efo fo oherwydd Covid, ond dywedais fy mod yn ei garu ac y byddwn yn ei bigo i fyny o’r ysbyty.

“Ond fyddwn i byth yn ei weld o’n fyw eto. Roedd o’r person mwyaf anhygoel a chynnes yn y byd.

“Dwi wedi fy chwalu hebddo fo.”

Pedair blynedd am gyflenwi heroin

Yn ogystal â’r ddedfryd o naw mlynedd, cafodd Gareth Wyn Jones ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar am gynllwynio i gyflenwi heroin.

Golyga hyn ei fod wedi cael ei ddedfrydu i gyfanswm o 13 o flynyddoedd dan glo.

Cafodd Jane Elizabeth Mitchell hefyd ei charcharu am dair blynedd am gynllwynio i gyflenwi heroin.