Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn galw ar y Ffermwyr Ifanc i edrych ar yr hyn sy’n bwysig i’r mudiad wrth iddyn nhw adfer ar ôl y pandemig Covid-19.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad bod nifer aelodau’r mudiad wedi gostwng yn genedlaethol.

Roedd ychydig dros 2,000 o aelodau wedi cofrestru gyda’r mudiad eleni, tua hanner y nifer arferol mewn blwyddyn, gyda’r pandemig yn ffactor mawr y tu ôl i hynny.

Mae llawer o aelodau wedi penderfynu peidio ymaelodi eleni gan nad oes posib cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb na chystadlu mewn eisteddfodau fel yr arfer.

Yn ariannol felly, mae’r mudiad wedi gorfod dibynnu ar y cynllun ffyrlo ac arian gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol, sy’n cael ei gynnig i’r sector digwyddiadau.

Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio’n genedlaethol, bydd y mudiad yn gobeithio y daw tro ar fyd yn fuan iawn.

‘Asgwrn cefn’ i’r gymdeithas

Yn ôl Cyfarwyddwr dros dro’r Ffermwyr Ifanc, Mared Jones, roedd yr aelodau arferol yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y mudiad yn ystod y pandemig er nad oedden nhw’n talu i ymaelodi.

“Fe wnaeth pobl ifanc weithio yn y gymuned, yn mynd a bwyd a phrescripsiwns i bobl fregus,” meddai wrth golwg360.

“Roedd nifer o glybiau’n cynnal sialensau er mwyn codi arian i elusennau lleol.

“Er nad ydyn nhw wedi talu aelodaeth, mae nhw wedi bod yn asgwrn cefn i gymdeithas drwy gydol y flwyddyn.

“A dyna yn y bon yw ethos y ffermwyr ifanc.”

‘Rhaid cynnig rhywbeth gwahanol’

Mae Sam Kurtz, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi dweud wrth golwg360 sut mae ei gangen ef o’r Ffermwyr Ifanc wedi ymdopi yn ystod y pandemig.

“Dw i’n dal yn is-gadeirydd cangen Sir Benfro, felly dw i’n gweld ar y llaw gyntaf beth sy’n digwydd o ran aelodaeth yn y sir,” meddai.

“Mae’n anodd achos mae pobl ifanc eisiau cael rhyw fath o gymdeithasu wyneb yn wyneb, yn enwedig gan fod yr ysgol dros Zoom.

“Mae’n rhaid i’r Ffermwyr Ifanc gynnig rhywbeth gwahanol iddyn nhw.

“Rydyn ni yn Sir Benfro wedi bod yn dda yn ailagor y cystadlaethau ac ailagor y cyfarfodydd.

“Gydag unrhyw beth o ran hynny, rydyn ni wedi sicrhau bod aelodau’n gallu cael cyfarfod wyneb yn wyneb.”

Er bod ei gangen wedi gallu cyfarfod o dro i dro yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf, mae’r sefyllfa’n amrywio ar draws Cymru.

“Dros Gymru gyfan, mae’r sefyllfa’n wahanol achos mae’n dibynnu ar sut Gyngor Sir sydd gennych chi a bod yn onest,” meddai wedyn.

“Mae Cyngor Ceredigion er enghraifft wedi gwrthod y Clwb i gynnal cyfarfodydd, sydd yn drueni.”

Dyfodol y mudiad

Wrth ystyried sut fydd y mudiad yn adfer ei hun yn y dyfodol, mae Sam Kurtz yn tybio bod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at eu gwreiddiau.

“Mae’n rhaid i’r Ffermwyr Ifanc fynd yn ôl at beth sy’n bwysig i’r aelodau, nid beth mae’r cadeirydd na’r bwrdd yn ei feddwl,” pwysleisia.

“A hynny yw cyfathrebu, gweld eich ffrindiau, cystadlu, ond heb y pwysau o ymarfer bob nos, a dod â’r hwyl yn ei ôl.

“Fe fydd yr aelodaeth yn dod yn ôl, ond mae pwyslais nawr ar sut fydd y mudiad yn edrych.

“A fydd y mudiad fel braich o Gyswllt Ffermio, lle gallwch chi wneud cyrsiau dysgu?

“Neu a fydd e’n fudiad sy’n rhoi pwyslais ar gymdeithasu?

“Mae e mor bwysig i bobol ifanc gael cefnogaeth a gofal, a dyna lle mae’r mudiad ar ei orau.

“Yn sicr, fe fydd e’n adfywio.”