Yn ôl Natalie Jones, sy’n gwirfoddoli gyda Chyngor Hil Cymru ac sydd newydd gymhwyso fel athrawes, mae pob plentyn yn “gallu cael rhywbeth allan o gael amrywiaeth o athrawon”.
Daw ei sylwadau wrth ymateb i brinder athrawon du, Asiaidd ac o gefndir ethnig lleiafrifol yng Nghymru.
Yn ôl Natalie Jones, a gafodd ei geni yn Birmingham i rieni o Jamaica cyn symud i Bwllheli pan oedd hi’n blentyn, mae’n anodd i blant ddychmygu eu hunain mewn swydd benodol oni bai eu bod nhw’n gweld rhywun o’r un cefndir â nhw’n gwneud y gwaith.
Byddai cynnig grantiau i bobol ddu, Asiaidd ac o gefndir ethnig lleiafrifol (BAME) er mwyn hyfforddi i fod yn athrawon yn gam tuag at wella’r sefyllfa, meddai Natalie Jones wrth golwg360.
Mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru a CBAC i gydweithio â mudiadau megis BAMEed a Chyngor Hil Cymru ar y mater.
“Dealltwriaeth” ddim yna
“Mae yna bendant brinder o athrawon BAME, a dw i’n meddwl bod hynna’n bechod achos mae rhai o’r plant ddim yn mynd i gael profiad mewn ysgol cweit mor bositif â phobol eraill,” meddai Natalie Jones, sy’n byw yn Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.
“Mae yna ddealltwriaeth gyda diwylliant plant weithiau sydd ddim yna, a dealltwriaeth os ydyn nhw wedi profi hiliaeth – pryd a sut mae hynna’n digwydd, a sut mae’n teimlo.
“Mae hynna’n bechod. Ond hefyd mae plant gwyn wedi dweud wrtha i eu bod nhw’n hoffi cael amrywiaeth o athrawon jyst i gael persbectif arall, a chael dysgu am ddiwylliant.
“Dw i’n meddwl fod y plant i gyd yn gallu cael rhywbeth allan o gael amrywiaeth o athrawon.
“Un peth sydd dal yn poeni fi ydi’r ffaith fod, yng Nghymru a Phrydain, plant Affro-Carbiaidd a phlant gypsy o deuluoedd sy’n teithio, mae yna disparity gyda faint ohonyn nhw sy’n cael expulsions o’r ysgol.
“Mae hynna’n rhywbeth sydd dal yn broblem. A dw i’n meddwl os fysa yna fwy o athrawon BAME, bysa’r rhifau yna’n dod lawr achos bydden nhw’n cael eu dysgu gan bobol sy’n deall nhw.”
‘Rhywbeth cenedliadol’
Wrth ystyried y rhesymau am brinder athrawon du, Asiaidd, ac o gefndir ethnig lleiafrifol, dywed Natalie Jones fod y broblem yn bod ers sawl cenhedlaeth.
“Dw i’n meddwl, dros y blynyddoedd diwethaf ar ôl Windrush a phethau fel yna, mae lot ohonom ni ddim wedi dod o deuluoedd gyda digon o arian i roi ni mewn prifysgol.
“Pan oedd mam fi yn yr ysgol, roedd lot ohonyn nhw’n cael eu galw’n subnormal, ac roedden nhw jyst yn cymryd ‘Maen nhw’n immigrants, fydd intelligence nhw ddim mor uchel â’r plant sydd wedi cael eu geni yma’.
“Oherwydd hynna, mae gen ti genhedlaeth o bobol sydd ddim wedi cael profiad da yn yr ysgol, wedi cael eu cam-drin mewn lot o ffyrdd, ac wedyn does dim ffydd yn y system.
“Fysa mam fi byth wedi awgrymu ’mod i’n dod yn athrawes pan ro’n i’n tyfu lan.
“Dw i’n meddwl bod o’n rhywbeth cenedliadol, mae’n mynd yn ôl cwpwl o generations pan ein bod ni ddim yn gweld athrawon du’n dod trwodd eto ond mae’n amser nawr i hynna ddechrau.”
Cynrychiolaeth
“Dw i wedi medru gwneud y cwrs TAR oherwydd bod grant i bobol sy’n siarad Cymraeg, dw i’n meddwl y gallai fod rhywbeth tebyg i bobol o’r gymuned BAME,” esboniodd Natalie Jones.
“Mae rhai wedi awgrymu rhoi mwy o gyflog iddyn nhw, ond fy hun, dw i’n meddwl mai’r step cyntaf yna i helpu nhw fynd i brifysgol.
“A phethau bach fel rhoi lluniau o bobol ddu ar y ffurflenni gwybodaeth sy’n hysbysebu cyrsiau prifysgol neu addysg hefyd.
“Pan mae plant yn mynd i weld rhywun sy’n siarad am yrfa yn yr ysgol, ydyn nhw’n rhoi digon o amrywiaeth o swyddi gwahanol i bawb?
“Os mae plant yn dechrau gweld athrawon du neu Asian neu o’r gymuned teithio, maen nhw’n mynd i weld o fel ‘Efallai bod hyn yn rhywbeth alla i ei wneud hefyd’.
“Ar y funud, mae’n anodd gweld dy hun mewn swydd pan ti erioed wedi gweld rhywun o dy gefndir di yn gwneud hi.”
“Lot o siarad”
Yn ôl Natalie Jones, mae angen i Lywodraeth Cymru a CBAC gydweithio gyda mudiadau fel BAMEed a Chyngor Hil Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Mae yna fudiadau fel BAMEed ar gael, a dw i’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru, a phobol fel Jeremy Miles, a CBAC siarad gyda nhw, fel Cyngor Hil Cymru hefyd,” meddai.
“Weithiau ti’n teimlo bod yna lot o siarad am bethau, a dim byd actually yn cael ei wneud. Mae’n amser nawr i rywbeth gael ei wneud.
“Hefyd mae isio newid y system arholiadau dw i’n meddwl, achos mae yna gwricwlwm newydd yn dod mewn sy’n mynd i fod yn help mawr i’r cwricwlwm du a BAME. Ond pan mae hi’n dod at arholiadau, rydyn ni dal yn yr hen oes.
“Efallai y dylem ni gael popeth i weithio gyda’i gilydd. Dw i’n gwybod fod Charlotte Williams yn gwneud lot o waith gyda nhw, mae hi’n wych.
“Ond weithiau, mae yna lot o bwysau ar un neu ddau o bobol i helpu i newid policies, ac mae yna fudiadau sy’n gallu helpu mwy os mae’r Llywodraeth yn gofyn.”
Ychydig cyn etholiad diwethaf y Senedd ym mis Mai, fe wnaeth Llywodraeth ddiwethaf Cymru dderbyn pob un o’r 51 o argymhellion yn adroddiad yr Athro Charlotte Williams, a oedd yn edrych ar y sefyllfa o ran cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd.
Yn yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar sut i weithredu’r cynllun.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu’r niferoedd o athrawon du, Asiaidd ac o gefndir ethnig lleiafrifol yng Nghymru, ac rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid er mwyn cyflwyno strategaeth yn yr hydref fydd yn anelu at fynd i’r afael â’r mater,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.