Dylai rheolau Senedd San Steffan gael eu newid er mwyn rhoi’r hawl i aelodau seneddol gyhuddo aelodau eraill o ddweud celwydd yn y siambr, yn ôl John Bercow, cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Mae cyhuddo aelod arall o’r Senedd yn mynd yn erbyn arferion a rheolau Tŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd.

Dywed John Bercow, oedd yn Llefarydd am ddeng mlynedd, fod y rheolau presennol “yn wael ac yn niweidiol i ddemocratiaeth” gan nad yw aelodau seneddol yn gallu datgan bod aelod arall wedi dweud celwydd wrth y Tŷ.”

Daw ei sylwadau wedi i’r Aelod Seneddol Llafur Dawn Butler gael ei gwahardd o San Steffan am alw Boris Johnson yn “gelwyddgi”.

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, yn un o’r rhai sy’n galw am ymchwiliad i “fethiant cyson Boris Johnson i fod yn onest” mewn datganiadau i ASau.

“Mae yna lond dwrn o eiriau dydych chi’n methu dweud ar lawr y siambr,” meddai wrth golwg360.

“Mae galw rhywun yn ‘gelwyddgi’ neu gyhuddo rhywun o gamarwain y Tŷ yn ddigon i gael ei hystyried yn weithred sy’n torri rheolau’r Tŷ fel y gwnaeth Dawn [Butler],” meddai.

“Mae’n reit ddiddorol o weld yr ymateb wrth weld Dawn Butler yn gwneud ei datganid hynod, hynod ddewr hi.

“Rwy’n cofio un tro wrth ymateb i ddatganiad gan y Prif Weinidog [Boris Johnson], fe wnes i ei gyhuddo o ddweud anwiredd ac roedd hynny adref dros y sgrîn yn hytrach na bod yno, wrth ddweud fod y llywodraeth wedi camliwio ystadegau am fuddsoddiad i fusnesau yng Nghymru yn ystod y pandemig.”

Pwyisgrwydd y Llefarydd

“Mae’r Llefarydd [Lyndsay Hoyle] yn ddiweddar yn derbyn fwyfwy o’r hyn a allai gael ei ystyried yn groes i egwyddorion y Tŷ,” meddai wedyn.

“Ar y naill law, dydy’r Llefarydd ddim am gael ei weld fel John Bercow oedd yn dwrdio’r llywodraeth a chaniatáu’r gwrthbleidiau wneud fel y mynnant.

“Ond dydy e ddim chwaith am gael ei ystyried fel y prif weinidog a wnaeth ganiatáu i’r prif weinidog ddweud celwydd.

“Yn fwy diweddar, dwi wedi ei weld e’n caniatáu pethau gan Ian Blackford [arweinydd yr SNP yn San Steffan] yn enwedig sy’n croesi’r ffin.

“Mae e’n effro iawn i’r cydbwysedd sydd ei angen a dyna ei her bennaf ar hyn o bryd.

‘Rheol hynafol’

Mae John Bercow bellach am weld y “rheol hynafol” hon yn cael ei dileu gan ei bod yn rhwystro aelod rhag dweud y gwir os ydyn nhw’n meddwl bod aelod seneddol arall yn camarwain y Tŷ.

Mewn erthygl yn The Times ar y cyd gan John Bercow a Dawn Butler, fe ddywedodd y ddau fod “y system yn wan ofnadwy”.

“Mae Aelod yn gallu dweud celwydd wrth filoedd ar filoedd o ddinasyddion wrth wybod fod y rheol hynafol hon yn eu hamddiffyn, tra bod Aelod Seneddol arall sydd â’r hyder i ddweud y gwir yn cael eu cosbi,” meddai’r ddau.

Er mwyn newid y rheol hon, byddai angen caniatâd y pwyllgor trawsbleidiol sy’n gyfrifol am Gweithdrefniant y Senedd.

 

AS Llafur, Dawn Butler, yn cyhuddo Boris Johnson o ddweud celwydd wrth Dŷ’r Cyffredin.

Mae cyhuddo aelod arall o Dŷ’r Cyffredin o ddweud celwydd yn erbyn rheolau’r Senedd.