Mae AS Llafur wedi cael ei gorchymyn i adael Tŷ’r Cyffredin ar ôl gwrthod tynnu honiadau yn ôl bod Boris Johnson wedi “dweud celwydd wrth y Tŷ a’r wlad drosodd a throsodd”.

Cafodd Dawn Butler, sy’n cynrhychioli Brent Canolog, ei gorchymyn i adael y siambr gan y Dirprwy Lefarydd dros dro, Judith Cummins.

“Mae pobl dlawd yn ein gwlad wedi colli eu bywydau oherwydd bod y Prif Weinidog wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn camarwain y Tŷ hwn a’r wlad drosodd a throsodd,” meddai’r AS.

 

Mae cyhuddo aelod arall o’r Senedd yn mynd yn erbyn arferion a rheolau Tŷ’r Cyffredin.

Tynnodd Dawn Butler sylw at honiadau dadleuol a wnaed gan y Prif Weinidog, gan gynnwys bod y cysylltiad rhwng Covid-19 a chlefyd difrifol a marwolaeth wedi ei dorri.

Fe ychwanegodd “Mae’n beryglus dweud celwyddau mewn pandemig ac rwy’n siomedig nad yw’r Prif Weinidog wedi dod i’r Tŷ hwn i gywiro ei hun a chyfaddef ei fod wedi dweud celwydd drosodd a throsodd.”

Fel y Dirprwy Lefarydd dros i Ms Butler bwyllo a myfyrio ar ei cyhuddiad gan roi cyfle iddi ymateb.

Ychwanegodd Dawn Butler: “Ar ddiwedd y dydd mae’r Prif Weinidog wedi dweud celwydd wrth y Tŷ hwn droeon.”

“Rydw i wedi myfyrio ar fy ngeiriau ac mae angen i rywun ddweud y gwir yn y Tŷ hwn bod y Prif Weinidog wedi dweud celwydd.”

Cafodd Dawn Butler ei hatal rhag dychwelyd i’r siambr am weddill y dydd.