Mae merch 16 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn 54 oed yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.

Cafodd y ferch ei harestio yn ardal Creigiau yn y brifddinas.

Mae hi’n dal i gael ei holi yn y ddalfa mewn perthynas â’r digwyddiad ddydd Mawrth (Gorffennaf 20).

Mae’r dyn 54 oed yn dal mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan yr heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodeth gysylltu â’r heddlu.