Mae Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio pobol i gymryd gofal o gwmpas dŵr ar ôl i ddau berson gael eu helpu i’r lan ar ôl mynd i drafferthion yn Llyn Tegid yn ystod oriau mân fore Sul (Gorffennaf 25).

Ychydig cyn 2:30 o’r gloch y bore, cafodd yr heddlu eu galw gan berson oedd yn pryderu am ddau o’i ffrindiau oedd wedi mynd allan i’r llyn mewn caiac a heb gael eu gweld am 90 munud.

Aeth swyddogion i’r ardal, ac fe gawson nhw gymorth hefyd gan hofrennydd yr heddlu, a oedd gerllaw’n delio â digwyddiad gwahanol.

Roedd y dyn a’r ddynes wedi cyrraedd y llyn gyda grŵp o ffrindiau a phenderfynodd y ddau fynd allan i’r dŵr heb siacedi achub bywyd na ffonau symudol.

Mae’n debyg bod y grŵp hefyd wedi bod yn yfed alcohol.

Ar ôl iddyn nhw beidio â gweld na chlywed gan eu ffrindiau am awr a hanner, cysylltodd gweddill y grŵp â’r heddlu.

Chwiliodd hofrennydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) y llyn wrth ddisgwyl i hofrennydd Gwylwyr y Glannau gyrraedd.

O fewn tua 20 munud, daethpwyd o hyd i’r ddau unigolyn, tua 500 metr o’r lan.

Roedd y hofrennydd yn eu goleuo gyda’u golau ‘nitesun’ ac yn eu dilyn wrth iddyn nhw badlo’n ôl i’r lan lle cawson nhw gyngor gan y swyddogion a oedd yno.

“Hynod lwcus”

“Rydyn ni i gyd yn gwybod mai caiacio yw un o’r ffyrdd gorau o fwynhau rhyfeddodau’r dŵr – fodd bynnag nid mewn tywyllwch, ac nid ar ôl i chi yfed alcohol a mynd allan heb siaced bywyd na ffôn symudol,” medai’r Arolygydd Dosbarth Lisa Jones o ardal De Gwynedd.

“Mae’r pâr yn hynod lwcus na wnaeth hyn droi’n drasiedi.

“Yn anffodus, bu nifer o achosion lle bu marwolaethau ledled y Deyrnas Unedig yn ymwneud â dŵr ac mae pob marwolaeth yn drychineb ar raddfa eang i deuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi marw.

“Yn wir, roedd y criw hofrennydd a ddaeth i’r digwyddiad hwn wedi bod yn y digwyddiad ar Afon Dyfrdwy yng Nghaer yn ddiweddar lle bu farw llanc 16 oed yn drasig.

“Gyda llawer mwy o bobl yn ymweld â’n rhanbarth ar gyfer eu gwyliau, a chyda phoblogrwydd cynyddol caiacs a byrddau padlo, rydym yn annog pawb i fod yn gyfrifol ac i gymryd gofal ychwanegol pan fyddant allan ar y dŵr.”