Bydd canolfan frechu dorfol Llanelli yn cael ei symud er mwyn i theatr gael ailagor ei drysau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd y ganolfan yn symud o Theatr Ffwrnes i Ystâd Ddiwydiannol Dafen ddydd Iau (Gorffennaf 29).

Nes hynny, bydd pobol yn dal yn gallu cerdded i mewn i gael eu brechu heb apwyntiad rhwng 10yb a 6yh.

Bydd y ganolfan yn ailagor yn ei lleoliad newydd ddydd Llun (Awst 2), a sesiynau cerdded i mewn yn cael eu cynnal saith diwrnod yr wythnos rhwng 10yb a 6yh ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau o Astra Zeneca, Pfizer a Moderna.

Cafodd sawl lleoliad ledled Llanelli eu hystyried cyn i Theatr Ffwrnes ddychwelyd at reolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin.

Lleoliad tymor hir

“Mae theatr Ffwrnes wedi darparu lleoliad hyfryd ar gyfer ein canolfan brechu torfol yn Llanelli yng nghanol y dref ond, wrth i’r lleoliad ailagor i gynulleidfaoedd, bydd ein rhaglen frechu yn symud i leoliad newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Dafen,” meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r bartneriaeth hon â Chyngor Sir Caerfyrddin a phob person sydd wedi chwarae rôl, waeth pa mor fawr neu fach, yn llwyddiant y ganolfan frechu dorfol hon sydd wedi dosbarthu dros 50,000 o frechlynnau.

“Bydd y lleoliad newydd, sydd wedi’i leoli ger canolfan brofi gyfredol Covid-19, yn darparu lleoliad tymor hir ar gyfer ein rhaglen frechu.

“Rydym yn deall y gallai hyn fod yn bellach i rai pobl deithio, ond ni allwn bwysleisio pa mor bwysig yw hi, gyda’r cynnydd diweddar mewn achosion, bod pobl yn dod ymlaen am eu dos cyntaf ac yn derbyn eu hail ddos brechlyn pan gânt eu gwahodd,” meddai, gan ychwanegu fod posib trefnu trafnidiaeth yno drwy’r bwrdd iechyd.

“Chwarae ein rhan”

Dywed arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod nhw’n “falch” o allu cynnig Theatr Ffwrnes fel canolfan frechu.

“Roeddem yn falch o gynnig Theatr Ffwrnes fel canolfan frechu dorfol – dim ond un o’r nifer o ffyrdd y mae’r cyngor wedi ymateb i bandemig Covid-19,” meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole.

“Rydym yn falch o chwarae ein rhan yn y rhaglen imiwneiddio arloesol hon – mae ein theatrau fel arfer yn lle y mae pobol yn ymweld i ymgolli mewn diwylliant, ac mae wedi bod ychydig yn wahanol yn croesawu miloedd o bobol trwy’r drysau i gael eu brechiadau.

“Rydyn ni’n diolch yn galonnog i bob person sydd wedi gweithio mor ddiflino y tu ôl i’r llenni ac ar y rheng flaen yn rhoi’r brechlyn i’n preswylwyr.”