Mae person wedi marw ar ôl syrthio oddi ar lethrau Crib Goch yr Wyddfa.

Cafodd ei gludo gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau ond daeth cadarnhad fod y person yn farw pan gyrhaeddodd yr ysbyty.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw am 8 o’r gloch nos Sadwrn (Gorffennaf 25) yn dweud bod person yn anymwybodol a ddim yn anadlu.

Darganfu aelodau’r tîm fod y person wedi disgyn “25 i 30 metr” ar lethrau isaf ochr ogleddol Crib Goch.

Mae’n lleoliad lle mae nifer fawr o ddamweiniau wedi digwydd dros y blynyddoedd.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw yn ogystal ag uned dronau Heddlu’r Gogledd er mwyn helpu i ddod i hyd i’r person.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r claf fu farw,” meddai llefarydd ar ran Tîm Achub Mynydd Llanberis.