Mae ymchwil gan Ofcom yn dangos bod y rhan fwyaf o bobol (74%) yng Nghymru’n dal i gael eu newyddion o’r teledu.

Dywed 48% eu bod yn defnyddio gwefannau neu apiau, tra bod 47% yn gwrando ar y radio.

O ran y teledu, mae dros hanner (57%) oedolion Cymru yn gwylio newyddion BBC One, tra bod 38% yn gwylio newyddion ITV Cymru.

Mae 26% yn gwylio Sky News, tra bod 16% yn gwylio’r newyddion ar Channel 4.

Mae’r ymchwil yn dangos bod 6% o oedolion yng Nghymru’n defnyddio S4C i gael eu newyddion.

Gwefannau ac apiau

Ac eithrio’r cyfryngau cymdeithasol, gwefan neu ap y BBC yw’r ffynhonnell rhyngrwyd sy’n cael ei defnyddio fwyaf ar gyfer newyddion yng Nghymru (31%).

Mae 15% yn defnyddio gwefan neu ap y Guardian, tra bod Sky News yn cael ei ddefnyddio gan 11%.

Mae gwefannau neu apiau newyddion yng Nghymru megis S4C neu’r Western Mail yn cael eu defnyddio gan 10% o oedolion.

Daily Mail yw’r papur newydd mwyaf poblogaidd

The Daily Mail yw’r papur newydd mwyaf poblogaidd ar gyfer newyddion yng Nghymru wrth edrych ar y ffigurau print/gwefan/ap gyda’i gilydd, gyda 18% o oedolion yn ei ddarllen.

Mae’r Guardian o fewn trwch blewyn i’r Daily Mail, gyda 17% o oedolion yn ei ddarllen.

The Sun sydd yn y trydydd safle (13%), tra bod y Western Mail a’r Mirror ar 9%.

Mae 7% yn darllen The Times, tra bod 4% yn darllen y Daily Post a’r Telegraph.

Cyfryngau Cymdeithasol

Facebook yw’r wefan gymdeithasol mae pobol yn ei defnyddio’n bennaf ar gyfer newyddion yng Nghymru (34%).

Ar ôl Facebook, Twitter yw’r wefan gymdeithasol fwyaf poblogaidd ar gyfer newyddion (25%), gydag Instagram yn drydydd ar 14%.

Dyw WhatsApp ddim yn bell y tu ôl i Instagram, gydag 11% yn ei ddefnyddio ar gyfer newyddion.