Abertawe yw’r ail ddinas orau yn y Deyrnas Unedig i fod ag eiddo Airbnb, yn ôl astudiaeth RationalFX o 27 o ddinasoedd sy’n seiliedig ar ffigurau AirDNA a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bradford sydd ar y brig wrth ystyried prisiau tai isel a refeniw Airbnb uchel wrth i’r astudiaeth awgrymu y byddai’n cymryd gwerth naw mlynedd o incwm o roi eiddo ar rent drwy Airbnb i dalu am eiddo yn y ddinas honno, o gymharu â 42 o flynyddoedd yn Luton.
11 o flynyddoedd fyddai’n ei gymryd yn Abertawe, gyda chyfartaled o £1,100 o refeniw Airbnb yn cymryd degawd i dalu pris cyfartalog eiddo o £143,500.
Yn ygostal, mae’r ffaith fod 62% o eiddo’r ddinas wedi’u llenwi dros y 12 mis diwethaf yn gwneud Abertawe yn gost effeithiol i’r rheiny sydd am roi eu heiddo ar rent drwy Airbnb.
“Mae’r galw am wyliau’n agosach at adref wedi codi’n ddramatig dros y flwyddyn ddiwethaf yng nghanol y pandemig, sy’n dangos bod busnesau rhentu gwyliau preifat yn faes sydd o ddiddordeb i fuddsoddwyr,” meddai llefarydd ar ran RationalFX.
“Gyda llacio cyfyngiadau yn y Deyrnas Unedig, bydd hi’n ddiddorol gweld sut fydd archebion Airbnb yn y Deyrnas Unedig yn cystadlu â’r opsiwn o wyliau tramor.”