Fydd Prif Swyddog Meddygol Cymru ddim yn cynghori pobol eithriadol o agored i niwed yn glinigol i gysgodi rhag Covid-19 (shielding) am y tro.

Mae Dr Frank Atherton wedi ysgrifennu at y rhai oedd ar y rhestr yn y gorffennol.

Daw hyn wrth i nifer yr achosion yn y gymuned gynyddu eto.

Daeth y cyngor i bobol eithriadol o agored i niwed yn glinigol ddilyn mesurau cysgodi i ben ar Ebrill 1.

Fodd bynnag, mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan yn dweud y dylai pobol fu’n cysgodi gymryd gofal ychwanegol i leihau’r perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws.

Ar hyn o bryd, mae llai o bobol yn gorfod mynd i’r ysbyty a llawer llai o farwolaethau o gymharu â thonnau blaenorol.

Sicrhau cydbwysedd

Yn ôl datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn awyddus i sicrhau cydbwysedd rhwng y risg o niwed gan Covid-19 a’r risg o niwed i iechyd meddwl pobol.

Dyw e ddim yn disgwyl, ar sail y dystiolaeth sydd ganddo ar hyn o bryd, y bydd angen iddo gynghori pobol i gysgodi eto yn y dyfodol.

Ond bydd rhai eithriadau, megis cleifion sydd wedi cael cyngor penodol gan eu clinigydd ac er nad yw’n ailgyflwyno’r cyngor, mae Dr Frank Atherton yn cydnabod y bydd rhai yn pryderu am y cynnydd mewn achosion.

Gan fynd i’r afael â rhai o’r pryderon, bydd e’n manylu mewn llythyr am effeithlonrwydd y brechlyn, ac yn annog pobol i gael eu brechu.

Ynghyd â hynny, mae’r llythyr yn pwysleisio pwysigrwydd cael dau ddos o’r brechlyn, ac yn rhoi cyngor ar sut i leihau risg bersonol.

Cadw’r rhestr

“Er nad yw Prif Swyddog Meddygol Cymru yn disgwyl gorfod ailgyflwyno mesurau gwarchod eto yn y dyfodol, rydym ar hyn o bryd yn cadw’r rhestr o gleifion a warchodir,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd pedwar Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig yn parhau i adolygu’r rhestr warchod, ac mae’n bosibl y bydd rhai cyflyrau neu grwpiau yn cael eu tynnu oddi arni yn y dyfodol.

“Mae’n debygol mai plant fydd y grŵp cyntaf y bydd hyn yn effeithio arno, gan fod yna dystiolaeth sylweddol mai ychydig iawn o blant sy’n mynd yn ddifrifol wael neu’n marw o ganlyniad i haint y coronafeirws.

“Os bydd cynnwys y rhestr neu ei statws yn newid, byddwn yn ysgrifennu at yr unigolion dan sylw ac yn rhoi gwybod i’r Aelodau, fel yr ydym wedi’i wneud drwy gydol y pandemig.”