Mae cynhyrchwyr moch o Geredigion am ddatblygu eu busnes yn broffesiynol ar ôl derbyn grant marchnata gan Fenter Moch Cymru.
Daeth Cennydd Jones a Naomi Nicholas o Bontsian yn gynhyrchwyr moch ar ôl bod yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth pesgi moch Menter Moch Cymru a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2017.
Erbyn hyn, mae’r ddau yn gwerthu cynnyrch drwy gynllun bocs o dan yr enw Traed Moch.
Bydd y grant o £750 yn eu galluogi i ddatblygu’r busnes yn fwy proffesiynol a hyrwyddo’u cynhyrchion porc ymhellach.
Mae’r arian hefyd am roi cyfle iddyn nhw weithio â chwmni dylunio i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo.
‘Cam mawr ymlaen’
Mae Cennydd Jones wedi egluro pwysigrwydd y grant wrth gymryd y cam nesaf fel busnes.
“Mae mor bwysig heddiw parhau i ddatblygu,” meddai.
“Mi roedd y cyllid yma yn ddelfrydol ar ein cyfer ni, er mwyn inni gael symud ymlaen a sicrhau bod ein cynnyrch yn cyrraedd ein cwsmeriaid yn edrych mor broffesiynol â phosib.”
Roedd Cennydd a Naomi yn dymuno cael bocsys pwrpasol wedi eu creu i ddosbarthu’r cynnyrch, yn ogystal â dosbarthu pamffledi i adrodd stori’r fenter.
“Ein bwriad ni gyda’r grant marchnata oedd cael pecynnau mwy cynaliadwy a hefyd pamffledi,” meddai Naomi.
“Dwi’n meddwl ei fod yn hynod bwysig bod y cyhoedd yn cael gwybod ein stori unigryw ni a dyma sydd ar gael wrth ddarllen y pamffled sydd yn cyd-fynd gyda’r bocs.
“Felly’r syniad yw bob tro mae rhywun yn prynu bocs maent yn cael eu cyflwyno i’n stori fach ni yng nghefn gwlad Cymru, am gwmni sydd yn cynhyrchu cig o safon uchel ac yn magu moch brodorol Cymreig.
“Yn sicr mae wedi bod yn ddatblygiad mawr inni fel cwmni. Mae’n gam mawr ymlaen.”
Proses ‘slic a syml’
Wrth drafod y broses o ymgeisio am grant, dywed Cennydd a Naomi ei bod yn broses hawdd a bod Menter Moch Cymru wedi rhoi llawer o gymorth iddyn nhw.
“Yn wir, fyddai creu’r deunyddiau yma ar gyfer ein busnes ddim wedi bod yn bosib heb gymorth a brwdfrydedd Menter Moch Cymru,” meddai Cennydd.
“Roedd y broses yn hollol slic a syml. Mae’r ddau ohonom yn gweithio llawn amser ac felly yn eithaf dibynnol bod pethau yn mynd yn eithaf rhwydd, ond roedd o’n grêt.
Roedd cyngor gan Fenter Moch Cymru wrth law bob amser, roedd o mor werthfawr â hyblygrwydd y tîm wedi ein helpu ar hyd y ffordd.”
‘Hyblygrwydd’
“Cafwyd yr hyblygrwydd i weithio gyda chwmnïau Cymraeg lleol, roedd hyn yn bwysig inni’n dau er mwyn cefnogi’r economi leol – yn bendant faswn ni ddim wedi llwyddo heb gael y cymorth gan Fenter Moch Cymru,” ychwanegodd Naomi.
“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn hynod bositif, mae nifer fawr erbyn hyn eisiau gwybod be’ maen nhw’n ei fwyta ac o le mae’r bwyd yn dod a dwi’n credu bod ein cyflwyniad ni i’r busnes ac ein stori ni drwy’r pamffled yn gymorth yn y maes yma.
“Diolch i Fenter Moch Cymru a’r cyllid yma mae ein cwmni bach ni wedi datblygu i edrych yn broffesiynol gyda deunyddiau o safon uchel sydd yn ein cynorthwyo i gyfathrebu ein brand a’n delwedd.”