Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn, yw enillydd Medal Ddrama’r Eisteddfod AmGen.

Cafodd y Fedal Ddrama ei chyflwyno am ddrama fer ar gyfer y llwyfan neu ddigidol, heb unrhyw gyfyngiad o ran ei hyd, a Cadi Ffan a Jan gan ‘Mwgwd’ aeth â hi.

Ystyrir cydweithio â’r enillydd er mwyn datblygu’r gwaith buddugol mewn partneriaeth gyda’r Theatr Genedlaethol.

Gwennan Mair Jones oedd y beirniad, a chafwyd pum ymgais yn y gystadleuaeth eleni.

“Mae’r deialog rhwng y cymeriadau yn naturiol iawn ac yn dafodieithol ddifyr,” meddai Gwennan Mair Jones am y gwaith buddugol.

“Mae’r cymeriadau yn grwn a real a theimlwn ein bod yn eu hadnabod yn syth ac yn eu hoffi hefyd; felly rydym yn barod iawn i fuddsoddi yn y ddrama o’r dudalen gyntaf.

“Mae’n anodd iawn sgwennu comedi sydd hefyd yn llawn dyfnder a braf iawn gweld drama syml sy’n aros yn y cof. Dyma awdur addawol iawn ac yn sicr mae potensial mawr i’r ddrama hon fod yn ffilm neu ddrama lwyfan lwyddiannus iawn.”

Gareth Evans-Jones

Dyma’r eildro i Gareth Evans-Jones gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth, wedi iddo ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddwy flynedd yn ôl gyda’i ddrama Adar Papur.

Mae e hefyd wedi ennill gwobr ‘Y Ddrama Orau yn yr Iaith Gymraeg’ gan Gymdeithas Ddrama Cymru yn 2010 a 2012, Medal Ddrama’r Eisteddfod Ryng-golegol yn 2012, Coron Eisteddfod Môn yn 2016, a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn yn 2019.

Derbyniodd ei addysg yn ysgolion Llanbedrgoch, Goronwy Owen, Benllech, a Syr Thomas Jones yn Amlwch, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Bangor i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol.

Dilynodd gwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2014, a chwblhaodd ddoethuriaeth yn 2017, a oedd yn ystyried ymatebion crefyddol y Cymry yn America i fater caethwasiaeth rhwng 1838 a 1868.

Bydd y thesis yn cael ei gyhoeddi maes o law gan Wasg Prifysgol Cymru.

Bellach, mae Gareth Evans-Jones yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018, ac roedd yn gyfrifol am olygu cyfrol o straeon byrion bach a gafodd eu cyhoeddi eleni, sef Can Curiad.

Mae e wedi cyfrannu straeon byrion, darnau o lên meicro, a cherddi i wahanol gyfnodolion a chyfrolau, gan gynnwys O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp; ac mae e wedi llunio dramâu ac ymgomiau ar gyfer Theatr Fach, Llangefni, criw Brain Cwmni’r Frân Wen, a Theatr Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal â llenydda, mae Gareth Evans-Jones yn ymwneud â nifer o fudiadau lleol, gan gynnwys fel ysgrifennydd Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas a Chymdeithasol Lenyddol Bro Goronwy, ac fel cyd-gyfarwyddwr artistig Theatr Fach, Llangefni.

Derbyniodd ei wobr mewn seremoni arbennig yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd nos Lun (2 Awst), yn unol â chyfyngiadau Covid.

Bydd modd darllen y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth, ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi eraill yr Eisteddfod, yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth ddydd Sadwrn, 7 Awst.