Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai Megan Angharad Hunter sydd wedi cipio’r wobr yng nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn gyda tu ôl i’r awyr, ac mai Mynd gan Marged Tudur ddaeth i’r brig yn y categori Barddoniaeth.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar BBC Radio Cymru nos Lun, Awst 2 yn ystod darllediad arbennig o raglen Stiwdio.
Roedd dau o feirniaid y wobr, Esyllt Sears a Guto Dafydd, a’r enillwyr yn cadw cwmni i’r cyflwynydd Nia Roberts.
Mae Megan Angharad Hunter a Marged Tudur yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un, a thlws wedi’i ddylunio a’i greu’n arbennig gan Angharad Pearce Jones.
Mae’r ddwy hefyd yn gymwys am wobrau Barn y Bobol golwg360 a Phrif Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2021.
Bydd canlyniadau’r ddwy gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi nos Fercher (Awst 4).
tu ôl i’r awyr
Nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc fel na welwyd ei thebyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen yw tu ôl i’r awyr, nofel gyntaf Megan Angharad Hunter.
Mae Anest a Deian yn y Chweched Dosbarth wrth iddyn nhw gwrdd, ac mae byd y ddau yn newid am byth.
Daw Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle, ac mae hi’n astudio’r Gymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020, enillodd hi Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru.
Mynd
Mynd yw casgliad cyntaf Marged Tudur, a derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2019 i weithio arni.
Cyfrol i Dafydd Tudur, brawd Marged Tudur, yw Mynd, ac mae ynddi golled a galar, ond cariad, yn fwy na dim, yw’r llinyn arian drwy’r cerddi.
Yn wreiddiol o Forfa Nefyn, mae Marged Tudur bellach yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio fel golygydd.
Wedi graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, aeth yn ei blaen i astudio MA Ysgrifennu Creadigol a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth.
“Dianc i fydoedd eraill”
Cafodd y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol, ac eleni, y beirniaid ar gyfer y llyfrau Cymraeg oedd y bardd ac awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Fardd Plant Cymru Anni Llŷn; yr awdur, academydd a darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr ac awdur Esyllt Sears.
“Mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd a rhyfedd i bawb mewn gwahanol ffyrdd, mae cael rhywbeth i ymgolli ynddo – i’ch tynnu allan o’r slafdod dyddiol – wedi bod yn gwbl amhrisiadwy,” meddai Esyllt Sears ar ran y panel beirniadu.
“Yn sicr, dyna oedd fy mhrofiad i.
“Felly, yn ogystal â bod yn fraint enfawr i gael bod yn rhan o banel beirniadu Llyfr y Flwyddyn 2021, roedd cael dianc i fydoedd eraill am awr neu ddwy y dydd am reswm cwbl ddilys yn bleser pur a dwi’n teimlo’n gyffrous iawn i rannu ein ffefrynnau gyda’r genedl.”
“Cyfoeth”
“Roeddwn i’n gegrwth wrth dderbyn y domen enfawr o lyfrau,” meddai Guto Dafydd.
“Sut yn y byd allai blwyddyn mor lom â 2020 gynhyrchu’r fath gynhaeaf llenyddol toreithiog? A sut yn y byd y mae diwylliant lleiafrifol go fregus yn llwyddo i baffio cymaint uwchlaw ei bwysau?
“Mae cyfoeth yma – o ysgolheictod cyhyrog i farddoniaeth sy’n prosesu profiadau’n grefftus, o nofelau gafaelgar i straeon fydd yn dal dychymyg plant.
“Mae llamu drwy’r llyfrau wedi ailgynnau fy nghariad at ddarllen – a’u trafod â’m cyd-feirniaid wedi gwneud imi werthfawrogi o’r newydd beth sy’n gwneud llenyddiaeth dda.”
Bydd enillwyr y categori Plant a Phobol Ifanc a’r categori Ffeithiol Greadigol yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos fory (nos Fawrth, Awst 3), ac enillydd Gwobr Barn y Bobol golwg360 a’r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi nos Fercher (Awst 4).
‘Dau deitl pwerus’
“Derbyniodd Megan a Marged Ysgoloriaeth Awdur gan Lenyddiaeth Cymru er mwyn gweithio ar tu ôl i’r awyr a Mynd, a braf yw gweld y cyfrolau hyn a’u hawduron talentog yn dod i’r brig yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.
“Dyma ddau deitl pwerus, sy’n cynnig cyfraniadau pwysig am iechyd meddwl a phrofiadau cymdeithas, ac sydd yn mynnu lle ar silffoedd llyfrau trwy Gymru gyfan.
“Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch Megan a Marged, a diolch i’r ddwy ohonynt am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed.
“Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru.”
Daeth cadarnhad nos Wener (Gorffennaf 30) fod nofel gyntaf Catrin Kean, Salt, wedi cipio’r goron driphlyg Gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn.