Mae Catrin Kean wedi ennill Gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2021 am ei nofel gyntaf, Salt.
Hefyd mae hi wedi ennill dwy wobr arall – Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies a’r Wales Arts Review People’s Choice Award.
Mae Catrin Kean yn derbyn gwobr ariannol o £4,000 a thlws wedi’i ddylunio a’i greu’n arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Cyhoeddwyd y newyddion yn ystod rhifyn arbennig o’r Arts Show ar BBC Radio Wales gyda Nicola Heywood Thomas yng nghwmni’r beirniaid, Tishani Doshi, Scott Evans, Tanni Grey-Thompson a Charlotte Williams.
Halen yn y gwaed
Mae Salt (Gwasg Gomer) yn adrodd stori gariad hen nain a thaid Catrin Kean. Lle brwnt a diflas yw Caerdydd yn 1878 i Ellen, sy’n breuddwydio am ddianc, ac wrth syrthio mewn cariad â Samuel mae hi’n llwyddo i wireddu hynny.
Ond mae bywyd ar y môr yn beryglus, a phan mae’n dychwelyd i Gaerdydd mae hi’n darganfod fod caledi bywyd y dosbarth gweithiol a hiliaeth yn dechrau gwenwyno eu bywydau.
Ysgoloriaeth
Dyfarnwyd lle i Catrin Kean ar gynllun Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli ar gyfer egin awduron yn 2016-2018, ac mae ei straeon byrion wedi’u cyhoeddi yn y Riptide Journal, antholegau Bridge House, a The Ghastling.
Derbyniodd Catrin Kean, sy’n byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner a’u cŵn, Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru llynedd er mwyn datblygu ei chyfrol o straeon byrion, Fogtime.
“Ansawdd hynod drawiadol”
Dywedodd Scott Evans fod bod yn rhan o’r panel beirniadu eleni’n “bleser ac yn fraint”.
“Mae ansawdd hynod drawiadol y rhestr fer ar draws y categorïau ffuglen, ffeithiol greadigol, barddoniaeth ac, yn arbennig, llyfrau plant yn crynhoi talent amrywiol ac anhygoel yr awduron sydd gennym i’w gynnig i ddarllenwyr mewn cartrefi, ysgolion, llyfrgelloedd a chymunedau yng Nghymru, ac ar draws y byd,” meddai Scott Evans.
“Maent yn arddangos gwir ehangder a dyfnder ein tirwedd, etifeddiaeth a llenyddiaeth hirsefydlog; ac, o’r herwydd, yn fy ngwneud i’n hynod falch o fod yn Gymro.”
Enillwyr y categorïau eraill
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori yn Gymraeg a Saesneg.
Dros y dyddiau nesaf, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi deuddeg enillydd ac yn dosbarthu cyfanswm o £14,000 i’r awduron llwyddiannus.
Gwobr Farddoniaeth Saesneg
Yr enillydd yw Fiona Sampson gyda’i chyfrol Come Down (Corsair Poetry), sy’n codi cwestiynau am ddynoliaeth ymysg safbwyntiau eraill.
Detholiad “rhagorol”
“Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi dod yn gyfle blynyddol pwysig i arddangos awduron Cymru ar lwyfan byd-eang,” meddai’r Aelod o’r Senedd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.
“Mae’r detholiad o lenyddiaeth a gynigir ymhlith rhestr fer 2021, ac yn enwedig ymhlith yr enillwyr, yn rhagorol, ac yn adlewyrchu gwir gyfoeth diwylliant llenyddol Cymru ar ei orau.
“Gobeithiaf y bydd darllenwyr yng Nghymru a thu hwnt yn parhau i fwynhau’r gweithiau eithriadol hyn, a dymunaf longyfarch yr holl awduron buddugol, ynghyd a’u cyhoeddwyr.”