Mae Llyfrgell Gladstone yn Sir y Fflint yn lansio mis o ymgyrch #Falchofodnôl (#Gladtobeback) er mwyn cyfri’r dyddiau nes y bydd yn ailagor.
Bydd y llyfrgell breifat ym Mhenarlâg ger Caer yn ailagor ei drysau i ymwelwyr preswyl ar 1 Medi.
O 6 Fedi, bydd ymwelwyr yn gallu archebu bwrdd ym mwyty’r llyfrgell, a bydd y llyfrgell yn agor ei ddrysau i Ddarllenwyr ac ymwelwyr i’r bwyty’r diwrnod hwnnw.
Cafodd y llyfrgell ei sefydlu ym 1894 gan y gwleidydd a’r Prif Weinidog William Gladstone, ac mae’n arbenigo mewn gwaith hanesyddol, diwinyddol a gwleidyddol.
Mae’r llyfrgell yn cynnig lle i ymwelwyr aros dros nos hefyd, sy’n ei wneud yn unigryw ymysg llyfrgelloedd y Deyrnas Unedig.
Yn sgil y pandemig, mae’r llyfrgell, sy’n anelu ar gefnogi ymchwilwyr ac awduron, wedi bod ar gau ers bron i ddeunaw mis.
“Allwn ni ddim aros”
“Rydyn ni’n cymryd diogelwch ein cefnogwyr ac ein hymwelwyr gwbl o ddifri, ac rydyn ni eisiau eich sicrhau y bydd Llyfrgell Gladstone mor ddiogel ag sy’n bosib,” meddai Peter Francis, Warden y llyfrgell.
“Fe wnaethon ni benderfynu mynd ymlaen gyda gofal ac yn yr wythnos gyntaf y byddwn ni’n ailagor, byddwn ni’n gwneud hynny i’r rhai sy’n aros yn y llyfrgell yn unig. Gall aelodau o’r cyhoedd a Darllenwyr ymweld â’r llyfrgell o 6 Medi.
“Mae hyn er mwyn sicrhau fod ein mesurau diogelwch Covid yn gallu cael eu gweithredu ac yna eu cryfhau, ac er mwyn i’n haelodau staff newydd, a’r rhai sy’n dychwelyd, allu darparu’r gwasanaeth gorau posib mewn amgylchedd gwahanol.
“Allwn ni ddim aros i ddangos y gwelliannau i chi ac eich croesawu’n ôl.”
Bydd rhaid archebu lle i fwyta yn y bwyty, ac mae gofyn cysylltu â’r Llyfrgell am ragor o fanylion am y llety.
Gellir dilyn yr ymgyrch #Gladtobeback ar wefan y Llyfrgell, neu ar eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.