Yn dilyn llwyddiant cylchgrawn Merched yn Gwneud Miwsig, mae cylchgrawn newydd sbon wedi’i greu gan ddwy o enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae ‘zine’ Merched yn Gwneud Celf wedi’i guradu gan Gweni Llwyd, a enillodd y wobr yn 2018, a Hannah Cash, a gipiodd y wobr yn 2019.

Fel platfform i artistiaid Cymraeg sy’n byw ac yn creu yng Nghymru, mae’r zine yn cynnwys gwaith nifer o artistiaid.

Bydd gwaith Carlota Nóbrega, Ffion Jones, Rhiannon Lowe, Kathryn Ashill, Cinzia Mutigli, Honey Hambley, Abby Poulson, Gwenllian Spink, Tess Wood a Sadia Pineda Hameed yn ymddangos ynddo.

Mae’r prosiect newydd sbon hwn yn deillio o lwyddiant Merched yn Gwneud Miwsig, sef prosiect ar y cyd rhwng Maes B a Chlwb Ifor Bach.

Cyn y pandemig, roedd y prosiectau yma’n dod â merched ifanc ar draws Cymru at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd gan rai o fenywod blaenllaw’r sîn gerddorol yng Nghymru.

Roedd y sesiynau’n cynnwys gweithdai cyfansoddi gan Heledd Morris o HMS Morris, sesiwn offerynnau gyda’r band Adwaith, gweithdy DJio gydag Anya Bowcott, a sesiwn gelf gydag Ani Saunders ac Elin Meredydd.

“Cyfle gwych”

“Mae’r zine yma’n gyfle gwych i ddangos nifer o artistiaid, sy’n gweithio mewn ffyrdd amrywiol,” meddai Hannah Cash.

“Ges i hwyl yn dylunio’r zine a chydweithio gyda Gweni, a dysgu mwy am yr artistiaid ‘nes i ddewis.”

“Roedd gweithio ar y zine yn brofiad gwych!” ychwanegodd Gweni Llwyd.

“Ro’n i wrth fy modd yn ymchwilio a churadu gwaith hynod o ddiddorol gan yr artistiaid, a ‘nes i rili mwynhau cael cyd-weithio a thyfu syniadau efo Hannah.”