Mae Oriel Môn yn gwahodd plant a phobol ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft am ddim dros yr haf.
I’r plant iau (8-11 oed), mae yna weithgareddau crefft greadigol bob dydd Mawrth o 11-12yb ac o 2-3yh gyda Kelly Davies, sy’n aelod o dîm yr Oriel.
Mae’r sesiynau yn cynnwys creu cardiau cyfarch wedi eu hargraffu yn defnyddio ‘poli printing’, creu pysgod allan o bapur, creu cylch allweddi macramé, creu portread anifail 3D a chreu print unlliw (mono).
Mae’r sesiynau am ddim ond mae angen archebu lle drwy ffonio’r Oriel.
I blant 11-18 oed, mae yna ddewis o bedair gweithgaredd gelf.
Yn y sesiynau yma, bydd cyfle i weithio gydag artistiaid proffesiynol i greu gwaith mewn sesiwn hwyliog, gyfeillgar lle mae modd arbrofi.
Mae’r artistiaid fydd yn cynnal y gweithdai yn cynnwys:
- Lora Morgan, yn creu tirlun gan ddefnyddio dwy dechneg ffeltio: dydd Gwener, Awst 6, 10:30-15:30
- Karen Williams, yn creu gemwaith wedi ei hysbrydoli gan natur allan o gopr ac alwminiwm: dydd Sadwrn Awst 14, 10:30 -15:30
- Hannah Coates, yn creu panel wedi ei ysbrydoli gan natur gyda chyfryngau cymysg ac wedi ei ailgylchu: dydd Gwener, Awst 20, 10:30 – 15:30
- Callie Jones, artist a gwneuthurwr printiau yn cynhyrchu ‘lino cuts’: dydd Gwener, Awst 27, 10:30-15:30
“Mae angen diolch i raglen ‘Hwyl yr Haf’ Llywodraeth Cymru sydd wedi sicrhau bod rhaglen gweithgareddau’r Haf am ddim eleni,” meddai Esther Roberts, Uwch Reolwr Oriel Môn.
“Mae rhaglen ‘Hwyl yr Haf’ Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd a lles plant a phobol ifanc.
“Ceir rhagor o fanylion am y gwahanol weithdai ar ein gwefan.”