Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, a derbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni yn Sgwâr Canolog, Caerdydd fel rhan o’r Eisteddfod AmGen.

Nid dyma’r tro cyntaf iddi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen, gan iddi ennill y ‘dwbl’ yn 2014, pan gipiodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli. Hi oedd y cyntaf i ennill dwy brif wobr rhyddiaith yr Eisteddfod.

Roedd trefnwyr yr Eisteddfod eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar ddechrau 2020, a phenderfynwyd agor yr amlen a gwobrwyo’r enillydd eleni er mwyn cefnogi’r diwydiant llyfrau.

Mae Lleucu Roberts yn derbyn Medal Goffa Daniel Owen, sy’n rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg, a £5,000, sy’n rhoddedig gan Brifysgol Aberystwyth, am ei nofel Hannah-Jane.

Y beirniaid oedd Aled Islwyn, Gwen Pritchard Jones a Dafydd Morgan Lewis, a daeth pum nofel i law mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn un agos iawn.

Ond ‘Ceridwen’ ddaeth i’r brig yn y pendraw, gyda Dafydd Morgan Lewis yn cychwyn ei feirniadaeth yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau drwy ddweud mai “hon oedd y nofel gyntaf i ddod o’r bocs ac fe wyddwn yn syth y byddai yna deilyngdod eleni”.

Yn ôl Gwen Pritchard Jones, mae’r “iaith yn bleser i’w darllen ac yn llifo’n esmwyth, a gall Ceridwen greu disgrifiadau hyfryd”.

“Perspectif gwreiddiol”

Cafodd y feirniadaeth ei thraddodi heno (3 Awst) gan Aled Islwyn, ac meddai, “Ar y cychwyn, ymddengys taw stori bur gonfensiynol, gymunedol a chysurus yw hi am fod – un am hen wreigan gysetlyd gyda chyfrinachau’n llechu yn ei gorffennol a hithau’n brysur golli’i chof… yn ogystal â’r dydd.

“Ond yn raddol, amlygir dyfnder aeddfetach a hwnnw’n un digon dirdynnol ar brydiau. Diolch i’r elfen Siapaneaidd yn arbennig, cynigir perspectif gwreiddiol ar aml i sefyllfa gyfarwydd.

“Wrth i’r nofel fynd yn ei blaen, cefais fy hun yn troi’r tudalennau gyda mwyfwy o frwdfrydedd.

“Diolch i’r pum awdur am ddeunydd darllen gwerth cnoi cil trosto. Prin fod trwch blewyn rhwng gweithiau Ceridwen a Mursen: dau awdur o’r iawn ryw a dwy nofel ryfeddol o debyg i’w gilydd o ran themâu a safon.

“Bu’n ddewis anodd, ond wedi dwys ystyried, rydym yn gytûn taw Hannah-Jane gan Ceridwen sy’n cipio’r wobr eleni.”

Lleucu Roberts

Daw Lleucu Roberts o Lanfihangel Genau’r Glyn ger Aberystwyth, ond mae hi’n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth, lle y cafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans.

Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, a mynd yn ei blaen i ennill doethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr dan arweiniad ei thiwtor, y diweddar Bobi Jones.

Bu’n olygydd gyda’r Lolfa am gyfnod, ond bellach mae hi’n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu, a hynny i Testun Cyf yn bennaf.

Dros y blynyddoedd, mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer radio a’r teledu, ac wedi gwneud gwaith sgriptio ar gyfer nifer o gyfresi drama.

Mae hi’n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, yn ogystal ag wyth nofel i blant a phobol ifanc.

Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, a gwobr Tir na n-Og ddwywaith am ei nofelau i bobol ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff.

Daeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr gyda’i chyfrol o straeon byrion Saith Oes Efa, yn ogystal ag ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Rhwng Edafedd.

Cipiodd wobr Barn y Bobol golwg360 fel rhan o wobr Llyfr y Flwyddyn 2015 gyda Saith Oes Efa hefyd.

Mae gan Lleucu Roberts a’i gŵr, Arwel ‘Pod’ Roberts, bedwar o blant ac un wyres, ac mae hi’n ystyried ei hun yn lwcus tu hwnt i gael bod mewn swigen â’i hwyres fach a gafodd ei geni fis Hydref diwethaf.

Er na chafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu llawer yn ystod y cyfnodau clo, fe wnaethon nhw ddyfnhau ei gwerthfawrogiad o gwmni ei theulu, meddai.

Bydd modd darllen y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth, ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi eraill yr Eisteddfod, yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth ddydd Sadwrn, 7 Awst.