Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai Rebecca Roberts sydd wedi cipio’r categori Plant a Phobol Ifanc gyda #helynt, ac mai Hazel Walford Davies sydd wedi cipio’r categori Ffeithiol Greadigol gyda’i chofiant i O.M. Edwards.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi heno (nos Fawrth, Awst 3) mewn darllediad arbennig o raglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru.

Roedd yr enillwyr a dau o feirniaid y wobr, Anni Llŷn a Tomos Owen, yn cadw cwmni i’r gyflwynwraig Nia Roberts.

Mae Rebecca Roberts a Hazel Walford Davies yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un, a thlws wedi’i ddylunio a’i greu’n arbennig gan Angharad Pearce Jones

Mae #helynt (Gwasg Carreg Gwalch) ac O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer) hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobol golwg360 a Phrif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2021.

#helynt

Nofel am sut y gall colli bws i’r ysgol newid bywyd rhywun yw #helynt.

Penderfyna Rachel fynd ar antur yn y Rhyl yn hytrach na mynd adref, gan ganfod ei hun mewn clwb nos.

Yno, mae hi’n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy’n gwybod rhywbeth am ei gorffennol… cyfrinach allai chwalu ei theulu.

Cafodd Rebecca Roberts ei magu ym Mhrestatyn, ac mae hi’n byw yno o hyd gyda’i gŵr Andy a’i phlant, Elizabeth a Thomas.

Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd.

Enillodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017, ac fe wnaeth #helynt, ei hail nofel, ennill un o wobrau Tir na n-Og eleni hefyd.

Mae ysgrifennu yn cymryd dipyn go lew o amser Rebecca Roberts, ond mae hi hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth roc, darllen a cherdded.

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards

Cyfrol Hazel Walford Davies yw’r cofiant llawn cyntaf i Syr Owen Morgan Edwards.

Ynddo, ceir portread tra gwahanol o O.M. i’r fytholeg gyfarwydd yn ei gylch, a gwelir ef yma yn ieuenctid ei ddydd.

Rhoddir sylw i’w yrfa, ac i’w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru, yn ogystal â chyflwyniad i’r dyn preifat a gafodd ei gaethiwo gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad.

Wedi’i magu yng Nghwm Gwendraeth, bu Hazel Walford-Davies yn Uwchddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru.

Ymhlith ei chyflawniadau niferus, bu’n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd yr Academi Gymreig, a chadeirydd cyntaf Bwrdd Ymgynghorol y Deyrnas Unedig o Gymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru.

‘Herio a swyno’

Cafodd y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol, ac eleni, y beirniaid ar gyfer y llyfrau Cymraeg oedd y bardd ac awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Fardd Plant Cymru Anni Llŷn; yr awdur, academydd a darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr ac awdur Esyllt Sears.

“Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron,” meddai Anni Llŷn ar ran y panel beirniadu.

“Mae’r rhestrau byrion yn ddathliad o’r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt.

“Mae gan bob un o rhain rhywbeth o werth i’w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i’w darllen.

“Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o’r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno.

“Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020.

“Ond dylem i gyd ymfalchïo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt.”

Roedd y categori Plant a Phobol Ifanc yn newydd y llynedd, gyda’r nod o annog cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron creadigol, codi proffil Cymru a’i hawduron, ac atgyfnerthu’r neges fod llenyddiaeth ar gyfer plant o’r un safon a bri ag unrhyw lenyddiaeth i oedolion.

‘Ysbrydoli darllenwyr’

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei threfnu gan Lenyddiaeth Cymru ers 2004.

“Dyma ddwy gyfrol haeddiannol iawn. Mae #helynt eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth wrth ennill Gwobr Tir na n-Og 2021 yn gynharach eleni, a dyma gadarnhad pellach o werth y nofel hon wrth iddi gipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Dyma hefyd gydnabyddiaeth haeddiannol i gofiant arbennig O.M. – gŵr yr oedd y rhan helaeth ohonom yn adnabod ei enw, ond bellach, diolch i’r cofiant arbennig hwn, gŵr yr ydym yn gwybod cymaint yn fwy amdano.

“Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch Rebecca a Hazel, a diolch i’r ddwy ohonynt am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed.

“Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru.”

Neithiwr, daeth y cyhoeddiad mai Megan Angharad Hunter gipiodd y wobr yn y categori Ffuglen eleni gyda tu ôl i’r awyr, ac mai Marged Tudur oedd yn cipio’r wobr Farddoniaeth gyda Mynd.

Bydd enillwyr Gwobr Barn y Bobol golwg360 a’r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi nos fory (nos Fercher, Awst 4) rhwng 9:00yh a 9:30yh ar Radio Cymru.

Cyhoeddi enillwyr categori Ffuglen a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2021

Megan Angharad Hunter a Marged Tudur yn cipio’r gwobrau