Dyfan Lewis sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod AmGen eleni, gan guro deunaw o geisiadau eraill.
Daeth y bardd, sy’n wreiddiol o Graig-cefn-parc ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, i’r brig gyda “chyfres o gerddi trydanol, cyhyrog, a deallus” am Gaerdydd.
Cyflwynwyd y Goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 200 o linellau, ar y pwnc ‘Ar wahân’.
Aled Lewis Evans, Elan Grug Muse, ac Elinor Wyn Reynolds fu’n beirniadu’r gystadleuaeth, a derbyniodd Dyfan Lewis Goron wedi’i chynllunio a’i chreu gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas, am ei waith.
Mae casgliad Dyfan Lewis yn cyrraedd y Dosbarth uchaf “yn ddiamheuol”, ac mae posib gweld gallu’r bardd i “grisialu rhin ac addewid a dirgelwch Caerdydd o oes i oes” drwyddyn nhw, meddai Aled Lewis Evans.
“Mynegiant celfydd uniongyrchol”
Wrth ysgrifennu am gasgliad ‘Mop’ yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, dywedodd Aled Lewis Evans ei fod yn hoff o “gynildeb” y bardd.
“Hoffais gynildeb y bardd hwn: emosiwn wedi ei ddal yn dynn a’i harneisio’n effeithiol,” meddai Aled Lewis Evans, a fu’n traddodi’r feirniadaeth ar ran y tri beirniad heno.
“Gwelwn y gallu i grisialu rhin ac addewid a dirgelwch Caerdydd o oes i oes, ond hefyd i ddal ton newydd ei hyder. Mae’r bardd yn gafael ynom efo’r cysyniadau a’r naratif sydd yn y dilyniant hwn. Mae’n fynegiant celfydd uniongyrchol, heb geisio bod yn flodeuog.
“Er bod hoff gerddi personol gennym fel tri beirniad unigol, roedd y tri ohonom wrth ddidoli wedi gosod y canlynol yn y Dosbarth Cyntaf: ‘Cysgod’, ‘Crwydryn’, a ‘Mop’.
“Wedi trafodaeth werthfawrogol am y gystadleuaeth drwyddi draw, daethom i’r farn gytûn mai ‘Mop’ yw enillydd Coron (AmGen) yr Eisteddfod eleni.”
“Casgliad amlhaenog”
Meddai Elan Grug Muse yn ei beirniadaeth, “Mae’r casgliad yn un cyflawn, a’r safon dros ddwsin o gerddi yn gyson. Mae’r cerddi yn llwyddo i wyro oddi ar lwybrau disgwyliedig, treuliedig, gan droi i gyfeiriadau newydd ac weithiau annisgwyl.
Roedd geiriau Elinor Wyn Reynolds yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yn llawn canmoliaeth hefyd.
“Dyma gyfres o gerddi trydanol, cyhyrog, deallus; mae’r bardd yn ddiwastraff yn ei ddefnydd o eiriau a’i fynegiant,” meddai.
“Mae ganddynt undod pendant ac maent yn creu casgliad amlhaenog, aeddfed o gerddi sy’n haeddu eu darllen sawl gwaith o’r bron. Casgliad sy’n cyrraedd y Dosbarth uchaf yn ddiamheuol yw’r hwn.”
Dyfan Lewis
Cafodd Dyfan Lewis ei fagu yng Nghraig-cefn-parc, ac aeth i Ysgol Gynradd Felindre ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe.
Aeth yn ei flaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn 2018 dechreuodd rannu ei waith creadigol gyda phamffled o gerddi a ffotograffau o’r enw Golau.
Y flwyddyn honno, enillodd ar y stori fer a’r ysgrif yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Cyhoeddodd bamffled arall o gerddi, Mawr, yn 2019, a’r llynedd cyhoeddodd gyfrol o ysgrifau teithio, Amser Mynd, ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru.
Mae Dyfan Lewis yn cyhoeddi ei waith drwy ei wasg ei hun, Gwasg Pelydr, ac mae’r wasg yn curadu creiriau.com – sef labyrinth celfyddydol ar y we sy’n croesawu cyfraniadau gan artistiaid o bob math.
Diolchodd i Efa, i’w rieni Angharad ac Emyr, ac i Owain ac Esyllt am eu cefnogaeth gyson.
Y Goron
Cafodd y Goron ei chreu yng ngweithdy’r Eisteddfod yn Llanybydder eleni, gan y crefftwr Tony Thomas.
Mahogani yw prif bren y Goron, gydag elfennau ohoni wedi’u creu o dderw Cymreig. Cafodd ei chreu â llaw, gyda’r prosiect yn un manwl a gofalus iawn.
Carole Leigh oedd yn gyfrifol am greu cap y Goron, a bu Nicky Williams yn cydweithio â Tony Thomas ar y prosiect hefyd.
Mae cysylltiad pendant rhwng y Goron a’r Gadair eleni, gan mai Tony Thomas oedd yn gyfrifol am y ddwy.
Cerrig yr Orsedd oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ddwy wobr, ac mae’r Cerrig yn cynrychioli llaw sy’n cofleidio’r bardd buddugol wrth iddo gael ei urddo gan yr Archdderwydd.
Mae’r syniad o ofalu am ein traddodiadau a’n diwylliant yn llifo drwy’r cynllun cyfan hefyd.
“Yr un yw’r urddas a’r ysblander”
Gan nad oedd hi’n bosib cael seremoni arferol eleni, bu’r trefnwyr, yr Orsedd a’r darlledwyr yn cydweithio er mwyn sicrhau bod modd cynnal seremonïau urddasol a diogel.
“Yn naturiol, mae’r amgylchiadau eleni wedi gorfodi nifer o newidiadau arnom: cynulleidfa fach, nifer cyfyngedig o Orseddogion, ac mae’n rhaid gwneud rhai pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol – gyda’r seremonïau’n digwydd gyda’r nos, ac ar ddiwrnodau gwahanol i’r arfer,” meddai Christine James, Cofiadur yr Orsedd.
“Ond mae llawer o elfennau cyfarwydd hefyd: gorymdaith yr Archdderwydd, Gweddi’r Orsedd a’r Corn Gwlad.
“A’r un hefyd yw’r urddas a’r ysblander – a’r wefr o ddatgelu a oes rhywun wedi llwyddo i gyrraedd safonau’r beirniaid eleni!”
Bydd y cerddi buddugol i’w gweld ar wefan yr Eisteddfod, a bydd modd gweld y feirniadaeth lawn yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau a fydd allan ddydd Sadwrn, 7 Awst.