Nofel “ddoniol a thorcalonnus” sy’n dilyn hanes merch a bachgen yn y Chweched Dosbarth sydd wedi ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn eleni.

Mae tu ôl i’r awyr, (Y Lolfa) nofel gyntaf Megan Angharad Hunter, yn cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc o’r enw Anest a Deian na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.

Cafodd ei disgrifio fel “y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd” gan Manon Steffan Ros, cyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Penderfynodd pleidlais gan ddarllenwyr mai cofiant Hazel Walford Davies i O.M. Edwards sy’n cipio gwobr Barn y Bobol golwg360 eleni.

Mae O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, a gafodd ei gyhoeddi ar ganmlwyddiant ei farwolaeth, yn ffrwyth ymchwil drwyadl gan Hazel Walford Davies, ac mae gwybodaeth a darganfyddiadau newydd ac annisgwyl rhwng ei gloriau.

Anni Llŷn, Guto Dafydd, Tomos Owen, ac Esyllt Sears oedd yn beirniadu eleni, a “doedd hi ddim yn hawdd dewis” o blith y cyhoeddiadau “gwirioneddol wych” a gafodd eu cyhoeddi llynedd, meddent.

Cafodd y cyfrolau buddugol eu datgelu mewn rhaglen arbennig o Stiwdio ar Radio Cymru heno (4 Awst).

Daeth tu ôl i’r awyr i’r brig yn y categori ffuglen yn gynharach yr wythnos hon, ac O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards gipiodd y wobr Ffeithiol Greadigol.

Prif Enillydd

Mae Megan Angharad Hunter yn derbyn cyfanswm o £4,000 mewn gwobr ariannol, yn ogystal â thlws wedi’i ddylunio a’i greu gan Angharad Pearce Jones.

Daw Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle, ac mae hi’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar y funud.

Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru.

Barn y Bobol golwg360

Cyfrol Hazel Walford Davies yw’r cofiant llawn cyntaf i O.M. Edwards, a bydd hi’n derbyn darlun arbennig gan Alys Shutt o Nelson, Caerffili yn rhodd gan golwg360, noddwyr gwobr Barn y Bobol.

Yn O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer), ceir portread tra gwahanol ohono o gymharu â’r fytholeg a grëwyd wedi’i farwolaethau, a chaiff sylw dyledus ei rhoi i’w yrfa a’i fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru.

Hazel Walford Davies gyda’r wobr – darlun arbennig gan Alys Shutt, sy’n fyfyriwr darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae’r gyfrol yn cyflwyno’r dyn preifat hefyd, y dyn a gafodd ei gaethiwo gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad, ac a brofodd ergydion chwerw fel priod a thad.

Clywir llais O.M. ei hun drwy’r gyfrol, yn ogystal â lleisiau ei wraig, ei deulu a’i ffrindiau.

Cafodd Hazel Walford Davies ei magu yng Nghwm Gwendraeth, a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.

Bu’n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru, a threuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.

Talentog

Roedd hi “wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron,” meddai Anni Llŷn ar ran y panel beirniadu.

“Mae’r rhestrau byr yn ddathliad o’r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan bob un o’r rhain rhywbeth o werth i’w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i’w darllen.

“Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o’r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno.

“Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020.

“Ond dylem i gyd ymfalchïo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt.”

“Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru.”

Cyhoeddi enillwyr categori Ffuglen a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2021

Megan Angharad Hunter a Marged Tudur yn cipio’r gwobrau

Catrin Kean yn cipio coron driphlyg Gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2021

Yr awdures o Gaerdydd wedi sgrifennu stori gariad ei hen nain a’i thaid