Mae disgwyl i filiau nwy a thrydan 15 miliwn o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig gynyddu o leiaf £139 i’w lefel uchaf erioed o fis Hydref wrth i reoleiddiwr y diwydiant ynni godi’r cap ar brisiau.
Mae’n dilyn cynnydd mewn prisiau cyfanwerthu, yn ôl Ofgem.
Dywedodd Ofgem ddydd Gwener (6 Awst) y bydd cwsmeriaid sy’n talu tariffau drwy ddebyd uniongyrchol yn gweld y cynnydd mwyaf mewn prisiau ers cyflwyno’r cap, gan ddod a biliau ar gyfartaledd i £1,277.
Fe fydd cwsmeriaid sy’n talu o flaen llaw yn gweld cynnydd o £153, o £1,156 i £1,309.
Daw’r cynnydd yn dilyn twf o fwy na 50% mewn costau ynni dros y chwe mis diwethaf, gyda phrisiau nwy yn cyrraedd eu lefel uchaf wrth i chwyddiant gynyddu yn sgil llacio cyfyngiadau’r coronafeirws, meddai Ofgem.
Dywedodd prif weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley: “Dyw biliau ynni uwch byth i’w croesawu ac mae amseru a maint y cynnydd yn mynd i fod yn anodd iawn i nifer o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd oherwydd effaith y pandemig.”
Ychwanegodd y gallai cwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau gysylltu gyda’u cyflenwyr i gael yr help sydd ar gael, neu weld os oes cynigion gwell ar gael.
“Rwy’n gwerthfawrogi bod hyn yn newyddion anodd iawn i nifer o bobl. Fe fydd Ofgem yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu dros y gaeaf, yn enwedig y rhai mewn amgylchiadau bregus.”
Fe fydd y prisiau newydd yn dod i rym i rai ar 1 Hydref.
Mae’r rheoleiddiwr yn adolygu’r cap ar brisiau bob chwe mis.