Mae cyn-gefnwr tîm rygbi Cymru a’r Llewod, Terry Davies, wedi marw yn 88 oed.

Cafodd ei fagu ym mhentref Bynea ger Llanelli.

Enillodd 21 cap dros Gymru rhwng 1953 a 1961 ac mae’n debyg y byddai wedi ennill mwy oni bai iddo golli tri thymor gydag anaf i’w ysgwydd.

Gwnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ar 17 Ionawr 1953 mewn gêm gartref ym Mharc yr Arfau Caerdydd.

Er i Davies sgorio gic gosb, fe gollodd Cymru 8–3.

Ef oedd prif sgoriwr taith y Llewod i Awstralia a Seland Newydd yn 1959, er mai dim ond 13 o’r 31 gêm wnaeth o chwarae ynddyn nhw.

Chwaraeodd mewn dau Brawf i’r Llewod gan gynnwys buddugoliaeth dros Seland Newydd yn Auckland.

Cafodd Terry Davies, o Lwynhendy, ei gap cyntaf yn ei arddegau wrth chwarae i Abertawe cyn symud i Lanelli.

Roedd yn enwog am ei daclo caled, ond sgoriodd 50 pwynt i Gymru a phump mewn profion gyda’r Llewod.

Cafodd ei alw’n “Seren Gyntaf Cymru yn safle’r cefnwr” gan gyhoeddwyr ei hunangofiant.

Treuliodd gyfnod yn y Morlu Brenhinol ac yn ddiweddarach bu’n gweithio fel masnachwr coed.