Mae un o gwmnïau loris mwyaf y Deyrnas Unedig yn dweud bod y diwydiant mewn “argyfwng”.
Fe ddywedodd Eurof Owen, perchennog cwmni Owens Group, wrth golwg360 fod y sefyllfa yn “fregus ac yn ddifrifol” oherwydd bod Brexit a Covid wedi lleihau ar eu gweithlu.
Gallai silffoedd gwag fod yn “olygfa gyffredin” yn y dyfodol agos, oni bai bod yna weithredu ar frys.
“Ar y funud, mae gyda ni 800 o yrwyr ledled y Deyrnas Unedig ond rydyn ni’n brin o ryw 200,” meddai.
“Brexit sy’n gyfrifol am hyn gan fod lot o weithwyr o ddwyrain Ewrop wedi gadael Prydain ac wedi mynd nôl adref.
“Dydy Covid heb helpu chwaith gan fod cymaint yn llai o bobol wedi gallu sefyll prawf gyrru lori, felly mae yna argyfwng na welwyd mo’i debyg o’r blaen.”
‘Dogni bwyd yn bosibiliad’
Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, wedi gorfod cyfyngu ar eu gwaith, sy’n golygu bod llai o fwyd yn cyrraedd silffoedd yr archfarchnadoedd.
Mae’r cwmni sydd â throsiant blynyddol o £70m yn poeni am y dyfodol agos.
“Mae hyn yn mynd i fynd lot yn waeth, ac efallai fe all hyd yn oed arwain at ddogni bwyd.
“Os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud ar frys, bydd y silffoedd gwag yn ein siopau yn olygfa gyffredin, a hynny yn y dyfodol agos iawn,” meddai Eurof Owen.
“Dydw i ddim am greu panig, ond efallai ein bo ni ddiwrnodau neu wythnosau i ffwrdd o brinder bwyd pellach ar ein silffoedd, ac mae’r arwyddion i gyd yn cyfeirio at hynny.”
Angen cefnogaeth gan y llywodraeth
Mae’r cwmni nawr yn galw ar y llywodraeth i gamu i’r adwy ar frys i helpu’r diwydiant gan edrych ar ffyrdd byr-dymor ac hir-dymor o achub y diwydiant.
“Mae angen help arnom ni gan y llywodraeth, achos ma hyn nawr yn greisis,” meddai.
“Mae angen hybu mwy o brentisiaethau gan nad oes digon o ddidordeb gan bobol ifanc i ddod i weithio yn y diwydiant gyrru loris.”
Yr wythnos hon mae nifer o archfarchnadoedd wedi cynnig talaid o £1,000 fel cymhelliad i recrwitio mwy o yrwyr i’r diwydiant.
“Maen nhw’n [archfarchnadoedd] â’r gallu i daflu miloedd at yrwyr ond gallwn ni ddim fforddio hynny,” meddai wedyn.
“Ni wedi rhoi dau godiad cyflog i’n gweithwyr ni yn barod eleni, a doedden ni ddim yn gallu fforddio gwneud hynny ond o’dd rhaid er mwyn cadw’n gweithwyr.”
Fe ddywedodd llefarydd ar Llywodraeth Cymru: “Rydym yn pryderu am adroddiadau prinder o yrwyr HGV.”
“Er nad yw’r rhan fwyaf o’r polisi i fynd i’r afael â’r prinder wedi’u datganoli, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r broblem.”
“Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol i fod yn bragmatig mewn perthynas â chyfyngiadau sy’n ymwneud â chyrffyw cyflenwi i safleoedd manwerthu.
“Rydym yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i ystyried ymyriadau hir-dymor, gan gynnwys sut y gallwn hyrwyddo a chysoni ein cynigion prentisiaeth a sgiliau i’r sector ar lefel y DU.”