Mae deg busnes o Gymru wedi eu cyhuddo o beidio talu’r isafswm cyflog cenedlaethol i’w gweithwyr.

Rhwng 2012 a 2018, roedd y busnesau wedi methu â thalu cyfanswm o £78,000 i 171 gweithiwr, sydd tua £450 y pen.

Mae’n debyg bod cwmnïau a oedd yn torri’r rheolau un ai wedi peidio â thalu staff am yr holl oriau wnaethon nhw weithio neu dalu cyfraddau tâl anghywir.

Wedi ymchwiliadau gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae’n rhaid i’r cwmnïau dalu staff yn ôl, ac maen nhw’n wynebu dirwyon o hyd at £20,000 y gweithiwr.

Y deg cwmni (a’u dyledion):

  • Automec Swansea Ltd (wedi ei ddiddymu 2 Ebrill, 2019) – Abertawe – £892.12 i un gweithiwr
  • Meadow Street Motors Ltd (masnachu o dan enw D.L. Motors) – Abertawe – £956.26 i un gweithiwr
  • 7 to 10 Food & Wine Ltd – Caerdydd – £9,573.74 i ddau weithiwr
  • M Francis (Cardiff) Ltd (masnachu o dan enw Minster Cleaning Services) – Caerdydd – £4,793.14 i 69 gweithiwr
  • Millenium Care Ltd – Castell Nedd Port Talbot – £28,871.77 i 40 gweithiwr
  • Menai Meats Ltd – Gwynedd – £23,558.16 i 34 gweithiwr
  • Chilton Motors Ltd – Sir Benfro – £4,171.87 i un gweithiwr
  • Walnut Tree Garage Ltd (masnachu o dan enw JP Tod Commercials) – Sir Fynwy – £559.73 i bedwar gweithiwr
  • Teifi Tots Ltd – Sir Gâr – £939.55 i 17 gweithiwr
  • Mr Hasan Yalcin and Mrs Sultan Yalcin (masnachu o dan enw Bridge Kebabs (o dan berchnogaeth newydd) – Ynys Môn – £3,723.68 i ddau weithiwr

‘Dim i wneud’ â’r cyhuddiadau

Ymysg y cwmnïau o Gymru roedd cwmni Menai Meats Ltd o Wynedd, a wnaeth fethu â thalu £23,558 i 34 gweithiwr, a Bridge Kebabs o Ynys Môn, oedd yn ddyledus o £3,723 i ddau weithiwr.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Menai Meats nad oedd neb ar gael i siarad â golwg360, ond fe roddodd Bridge Kebabs ymateb i’r cyhuddiadau.

“Mae hyn wedi digwydd flynyddoedd yn ôl o dan berchnogion gwahanol,” meddai eu rheolwr Omer Yalcin.

“Mae’r busnes dan berchnogion newydd ers tair blynedd ac oherwydd camgymeriadau gyda slipiau talu, cafodd y busnes cynt ei ddirwyo.

“Erbyn hyn, maen nhw wedi talu’r dirwyon a does gan y busnes hwn ddim i wneud gyda’r gosb.

“Mae hyn yn niweidio fy musnes i achos mae dan yr un enw, ond o dan berchnogaeth wahanol.

“Dydy o ddim yn dda’u bod nhw’n enwi busnesau bach – dylai eu bod nhw’n mynd ar ôl busnesau mawr.”

191 o gwmnïau ar draws y DU

Ar draws y Deyrnas Unedig, cafodd 191 o gwmnïau eu henwi, gan gynnwys John Lewis ccc, a chadwyni siopau One Stop yn cael eu henwi fel rhai a wnaeth fethu â thalu gweithwyr yr isafswm cyflog cenedlaethol.

Roedd cwmni John Lewis yn ddyledus o bron i filiwn o bunnoedd i 19,392 gweithiwr. Tra bod One Stop wedi methu â thalu dros £50,000 i 2,631 gweithiwr.