Mae cydweithio rhwng elusen Tŷ Gobaith a Chomisiynydd y Gymraeg wedi sicrhau gofal iechyd Cymraeg i deuluoedd, ac mae’r elusen wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith yn datblygu’r defnydd o’r iaith.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd i fusnesau ac elusennau y mae e wedi cydweithio â nhw i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg.

Tŷ Gobaith yng Nghonwy yw’r darparwr gofal iechyd cyntaf i ddod yn rhan o’r cynllun, ac fe wnaethon nhw dderbyn y gydnabyddiaeth yn ystod sesiwn yn yr Eisteddfod AmGen heddiw (dydd Iau, Awst 5).

Ers lansio’r cynllun fis Mehefin y llynedd, mae dros 40 o fusnesau ac elusennau wedi cwblhau’r gwaith o ddatblygu Cynnig Cymraeg.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn galluogi busnesau ac elusennau i roi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid beth yn union sy’n cael ei gynnig drwy’r Gymraeg.

‘Teimlo’n agos at gymunedau’

Derbyniodd yr elusen y gydnabyddiaeth yn sgil y gwaith maen nhw’n ei wneud i ddarparu gofal iechyd arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg i deuluoedd a phlant difrifol wael.

Mae pum Cynnig Cymraeg Tŷ Gobaith yn cynnwys deall pa mor bwysig yw hi fod cleifion a’u teuluoedd yn derbyn gofal iechyd yn eu mamiaith.

Yn ôl yr elusen, maen nhw’n ymfalchïo bod ganddyn nhw nifer o staff sydd â sgiliau Cymraeg, ac mae pob aelod o staff yn ateb y ffôn yn ddwyieithog, ac os nad yw’r swyddog yn siarad Cymraeg, maen nhw’n trosglwyddo’r alwad at siaradwr Cymraeg pan fo hynny’n bosib.

Mae eu cynigion yn cynnwys cyfathrebu yn Gymraeg gyda chefnogwyr hefyd, er enghraifft drwy lythyrau, cylchlythyrau a phosteri, ac mae ganddyn nhw wefan Gymraeg.

“Elusen leol ydy Tŷ Gobaith ac mae defnyddio’r Gymraeg yn hanfodol i ni i deimlo’n agos at ein cymunedau,” meddai Kelly Hughes, sy’n Swyddog Codi Arian gydag elusen Tŷ Gobaith.

“Mae teuluoedd yn dod aton ni o ogledd a chanolbarth Cymru, ac mae llawer ohonynt yn siarad Cymraeg.

“Rydyn ni wedi mynd ati i sicrhau bod gofalwyr a nyrsys sy’n siarad Cymraeg yn edrych ar ôl y teuluoedd hynny.

“Mae’r Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd yn ffordd o ddangos ein bod yn ymrwymo i gynnig gwasanaeth Cymraeg i’r teuluoedd sy’n dod yma.”

“Haws” mynegi pryderon

Wrth siarad am bwysigrwydd cael cynnig gwasanaethau drwy’r Gymraeg, dywed mam un bachgen sy’n derbyn gofal gan Dŷ Gobaith ei fod e’n “hollbwysig”.

Mae Bedwyr Davies o Lanrwst yn chwech oed, ac mae’n byw gyda chyflwr genetig hynod brin o’r enw Coffin-Siris Syndrome, sy’n achosi anawsterau dysgu ac iechyd sylweddol.

“Mae Bedwyr yn mynd i’r hosbis am ysbaid bedair gwaith y flwyddyn, ac rydyn ni fel rhieni a’i frawd hefyd yn dibynnu ar Tŷ Gobaith am gyngor, cefnogaeth a chwnsela,” meddai Nerys Davies.

“Mae’r gefnogaeth i gyd yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Cymraeg yw iaith ein cartref ac iaith yr ysgol, ac felly mae cael y cysondeb yna yn yr iaith yn hollbwysig i Bedwyr wrth ymweld â Tŷ Gobaith.

“Mae’n bwysig i ni fel teulu hefyd, ac yn haws i ni fynegi ein hunain a’n pryderon yn ein hiaith gyntaf, yn enwedig wrth drafod pethau anodd ac agos iawn i’r galon.”

“Annog elusennau eraill”

Gall sefydliadau gyflwyno eu Cynnig Cymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn cael cydnabyddiaeth swyddogol, a bydd logo’r Cynnig Cymraeg yn cael ei ddefnyddio ganddyn nhw wedyn.

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn galluogi busnesau ac elusennau i roi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid beth yn union sy’n cael ei gynnig yn y Gymraeg,” meddai Awel Trefor, Swyddog Hybu gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

“Rydyn ni’n cynllunio ac yn cydweithio â sefydliadau i’w helpu i greu cynllun datblygu’r Gymraeg ac i osod targedau.

“Y rheswm dros gynnal y sesiwn yma fel rhan o arlwy’r Eisteddfod AmGen yw i dynnu sylw at waith Tŷ Gobaith a phwysigrwydd darparu gofal iechyd yn y Gymraeg.

“Rydyn ni hefyd eisiau annog elusennau eraill i gydweithio â ni ac i ddatblygu Cynnig Cymraeg eu hunain.”