Mae Plaid Cymru wedi galw ar Simon Hart i gondemnio sylwadau “gwawdiol” Boris Johnson am gau’r pyllau glo.
Fe wnaeth Boris Johnson honni bod Margaret Thatcher wedi rhoi “hwb cynnar” i’r Deyrnas Unedig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd pan gaeodd byllau glo’r wlad yn yr 1980au.
“Does dim modd mesur y difrod a wnaed i ardaloedd glofaol Cymru 30 mlynedd yn ôl, a dyma ni 30 mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r Torïaid yn dal i ddathlu’r hyn a wnaethant,” meddai Mark Drakeford.
Yn ei llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dywedodd Liz Saville-Roberts AS fod Llywodraeth Cymru’n parhau i ennill o bocedi glowyr.
“Amharchus”
Wrth ysgrifennu at Simon Hart, Ysgrifennydd Gwaldol Cymru, dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod cyn-gymunedau glofaol Cymru dal i ddioddef ar ôl y dinistr a achoswyd gan bolisïau economaidd Margaret Thatcher.
“Mae’r Prif Weinidog yn defnyddio’r cymunedau hynny fel llinell mewn jôc yn hynod amharchus, fel y mae ei ymdrech ffôl i ailysgrifennu hanes,” meddai Liz Saville-Roberts yn ei llythyr.
“Doedd gan bolisïau Thatcher o gau’r pyllau ddim i wneud â newid hinsawdd, ond roedd e’n ffordd o ddinistrio’r hyn yr oedd hi’n alw’n “elyn mewnol” – glowyr a’u cymunedau.
“Yn hytrach nag ailsgilio gweithwyr ar gyfer diwydiannau’r dyfodol, fe wnaeth Thatcher chwalu cymunedau cyfan yn enw syniadaeth economaidd adain dde.”
‘Dal i ennill’
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i ennill o bocedi glowyr Cymreig a’r Deyrnas Unedig, sydd nawr yn bensiynwyr, drwy Raglen Bensiynau’r Glowyr, ychwanegodd Liz Saville-Roberts.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn tua £4.4 biliwn drwy’r rhaglen, gyda disgwyl £1.9 biliwn pellach yn ogystal â 50% ar unrhyw beth sy’n weddill yn y dyfodol, er nad yw’r Llywodraeth wedi cyfannu ceiniog i’r rhaglen eu hunain.
“Ymddiheuriad go iawn am sylwadau anneallus y Prif Weinidog fyddai adolygiad i benderfyniad y Llywodraeth i wrthod cynnig y Pwyllgor Dethol Diwydiannol, Ynni a Busnes i ddiwygio rôl y Llywodraeth ar gyfer gwella elwon aelodau.
“Fel cynrychiolydd y Deyrnas Unedig yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gondemnio sylwadau gwawdiol Boris Johnson,” meddai wrth Simon Hart.
“Bydd methu â gwneud hynny yn cadarnhau nad yw’r Ceidwadwyr yn poeni dim am oblygiadau dynol y dinistr y gwnaethon nhw ei achosi i Gymru yn y gorffennol.
“Os mai dyna’r achos, gallwn ni ond dod i’r canlyniad y bydd cymunedau agored i niwed sydd am gael cymorth i symud oddi wrth gyflogaeth tanwydd ffosil heddiw mod hepgoradwy i Boris Johnson ag oedd cymunedau glofaol i Margaret Thatcher.”
“Dinistrio’n llwyr”
Cafodd y sylwadau eu gwneud gan Boris Johnson ddoe wrth ymweld â’r Alban, ac wrth ymateb dywedodd Nicola Sturgeon fod bywydau a chymunedau ar draws yr Alban “wedi’u dinistrio’n llwyr pan wnaeth Thatcher chwalu’r diwydiant glo”.
Nid oedd gan pholisiau “ddim i wneud â phryderon oedd ganddi am y blaned”, ychwanegodd.
Dywedodd Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur: “Mae canmoliaeth cywilyddus Boris Johnson am Margaret Thatcher am gau’r pyllau glo, a diystyru effaith ddinistriol hynny ar gymunedau wrth chwerthin, yn dangos pa mor bell ydi e oddi wrth bobol weithiol.”