Mae Mark Drakeford yn hyderus bod Cymru wedi cyrraedd “cymal olaf” y pandemig, cyn belled nad oes datblygiadau annisgwyl o ran y feirws.
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru gyhoeddi neithiwr (5 Awst), fod y wlad yn symud tuag at gyfyngiadau lefel 0 fory (7 Awst).
Yn sgil y llacio, bydd pob busnes, gan gynnwys clybiau nos, yn cael ail-agor ac ni fydd cyfyngiadau ar faint o bobol fydd yn gallu dod ynghyd.
Ond bydd rhai mesurau cyfreithiol yn dal yn eu lle i warchod pobol rhag y coronafeirws, gan gynnwys gwisgo mygydau mewn rhan fwyaf o leoliadau dan do, oni bai am lefydd sy’n gweini bwyd a diod ac mewn ysgolion.
Bydd rhaid i unrhyw un sydd â chyfrifoldeb am safle sydd ar agor i’r cyhoedd gwblhau asesiad risg a chymryd camau priodol i leihau’r risg i staff a chwsmeriaid.
Fe fydd lleoliadau’n gallu ystyried pecyn o fesurau, gan gynnwys ymbellhau cymdeithasol, cyfyngiadau ar niferoedd ac awyru, yn seiliedig ar eu hasesiad risg.
Does dim disgwyl y bydd newid i’r drefn hon am o leiaf chwe wythnos.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Dywedodd Mark Drakeford mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (6 Awst), ei bod hi’n bosib bod yn hyderus, fel y mae pethau ar hyn o bryd, bod Cymru ar “y ffordd mas o’r coronafeirws”.
“Ni allwn gymryd yn ganiataol na fydd y feirws yn achosi sawl syrpreis annymunol pellach,” ychwanegodd.
“Pe byddai amrywiolyn newydd yn dod i’r amlwg, neu pe byddai’r feirws yn datblygu mewn ffordd ble mae brechu’n llai effeithiol nag y mae heddiw, yn anorfod fe fyddai’n rhaid i ni wynebu canlyniadau hynny a chymryd camau i fynd i’r afael â nhw”.
Ar hyn o bryd, mae 130 achos o Covid-19 i bob 100,000 o bobol dros Gymru, gyda’r achosion wedi bod yn disgyn ers y deng niwrnod diwethaf.
Mae 82% o oedolion Cymru wedi cael dau ddos o’r brechlyn, a phwysleisiodd Mark Drakeford fod y gyfradd frechu uchel wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol a derbyniadau i ysbytai.
Cyfraddau brechu
59% o bobol rhwng 18 a 29 sydd wedi cael dau frechlyn, ond dywedodd y Prif Weinidog y bydd hynny’n cynyddu am nad oes digon o amser wedi pasio ers i nifer ohonyn nhw gael y brechlyn cyntaf.
“Mae dros 75% wedi cael dos cyntaf, ac mae’r nifer hynny yn codi yn ddyddiol. Wrth gwrs, rydyn ni’n gobeithio y byddai’n uwch,” meddai.
“Dyna pam rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud brechiadau yn haws i bobl ifanc gael gafael arnyn nhw yn y ffordd maen nhw’n byw eu bywydau.
“Mae’r bobl yma yn aml yn gweithio, ac mae canfod amser i gael apwyntiad yn fwy anodd. Dyma pam fod gennym ni glinigau pop-up a rhai ble nad oes angen archebu lle.”
Pwysleisiodd yn ystod y gynhadledd hefyd ei fod e ddim am ddychryn pobol i gymryd y brechlyn.
Pellter cymdeithas ddim “yn diflannu”
Wrth drafod pellter cymdeithasol, dywedodd Mark Drakeford nad yw cadw pellter cymdeithasol yn “diflannu yng Nghymru”.
Bydd rhestr ehangach o fesurau ar gael o fory ymlaen, a “mwy o hyblygrwydd i fusnesau roi’r gyfres gywir o fesurau at ei gilydd” i warchod eu staff a chwsmeriaid.
Gofynnwyd i Mark Drakeford a yw e’n rhagweld na allai tafarndai fod yn llawn, ac atebodd Mark Drakeford na fyddai’n dweud hynny.
Ychwanegodd ei fod e’n disgwyl i’r sector lletygarwch weithredu mesurau angenrheidiol, gan gynnwys awyru tafarndai’n ddigonol ac osgoi cael “nifer fawr o bobol wrth y bar”.
Bydd y systemau profi ac olrhain yn aros hefyd, gan gael eu defnyddio i rybuddio, neu hysbysu, pobol os ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos positif.
Fodd bynnag, bydd gweithwyr y gwasanaeth Profi ac Olrhain yn cysylltu â nhw er mwyn eu rhybuddio a rhoi cyngor iddyn i beidio ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal, ac i gymryd prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth.