Mae mam bachgen tair oed a fu farw ar fferm ger Efailwen ddydd Mawrth wedi talu teyrnged iddo.

Cyhoeddodd yr heddlu heddiw mai Ianto Siôr Jenkins oedd enw’r bachgen a fu farw.

Roedd yn reidio ei feic ar fferm y teulu yn Sir Gaerfyrddin pan gafodd ei daro gan dryc, ac fe gafodd ei bennu’n farw gan wasanaethau brys yn y fan a’r lle.

‘Bachgen bach ei fam’

“Ianto oedd cannwyll fy llygaid – roedd yn ysbrydoliaeth i fywyd,” meddai ei fam, Chloe Picton.

“Roedd yn fachgen bach oedd wastad yn gwenu a chwerthin.

“Ei ffrind gorau oedd ei chwaer hyn Seren, ac roedden nhw wastad yn cofleidio.

“Roedd yn hoff o fynd i’r cylch meithrin ac yn gyffrous i ddechrau yn Ysgol Beca yn Efailwen fis Medi.

“Roedd yn dwlu bod allan ar y fferm a mynd yn y tractor gyda’i dad.

“Roedd gen i ac Ianto gysylltiad cryf iawn, fe oedd ‘bachgen bach ei fam’ ac roedd e wastad wrth fy ochr lle bynnag oedden ni’n mynd, a nawr mae hynny wedi ei gymryd oddi wrthyf i.

“Dylai ddim un rhiant golli ei blentyn a bydden ni’n hoffi pe bai pawb yn parchu ein dymuniadau a rhoi lle i ni alaru yn yr amser anodd a thorcalonnus hwn.”