Mae bachgen pump oed y cafwyd hyd i’w gorff yn afon Ogwr dros y penwythnos wedi cael ei enwi.

Roedd Logan Mwangi, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, yn dod o Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod yn yr afon ger Parc Pandy, Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn adroddiadau bod plentyn ar goll ben bore dydd Sadwrn (Gorffennaf 31).

Mae’r tri pherson – dyn 39 oed, dynes 30 oed, a bachgen 13 oed – a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r achos yn dal yn y ddalfa.

Dydi Heddlu De Cymru ddim yn chwilio am neb arall.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, ac mae’r heddlu yn galw am wybodaeth gan dystion a oedd yn yr ardal ar y pryd, neu unrhyw un a allai fod â gwybodaeth.

Mae ffrindiau’r teulu wedi talu teyrnged i’r bachgen “annwyl, doniol, cwrtais, golygus a galluog” ar y cyfryngau cymdeithasol.

Maen nhw’n annog unrhyw un sydd eisiau talu teyrnged iddo i wneud hynny drwy osod tedis ger golau stryd a phont droed wrth ymyl safle’r digwyddiad.

Teyrngedau i fachgen pump oed “annwyl” a gafodd ei ddarganfod yn afon Ogwr

“Rydyn ni’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â ni,” meddai Heddlu’r De