Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dweud nad yw oddeutu 25% o bobol 18 i 29 oed yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid-19 hyd yma.

Mae hynny’n cyfateb i ryw 121,000 o oedolion o dan 30 oed.

24% o bobol 30 i 39 oed sydd heb gael dos cyntaf, neu ryw 101,000 o bobol, ac 16% o bobol 40 i 49 oed (neu 62,000 o bobol).

Ond mae o leiaf 90% o bobol ym mhob categori oedran arall wedi cael dos cyntaf, gan gynnwys 96% o bobol dros 80 oed.

Dydy tua 7% o weithwyr cartrefi gofal Cymru ddim wedi cael dos cyntaf, ynghyd â 5% o bobol sy’n glinigol fregus, a 10% o bobol rhwng 16 a 64 oed sy’n glinigol fregus yn ôl categorïau iechyd.