Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i fachgen pump oed “annwyl” y cafwyd hyd i’w gorff yn afon Ogwr.

Cafodd corff y bachgen, sydd wedi’i enwi’n lleol fel Logan, ei ddarganfod yn yr afon ger Parc Pandy, Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn adroddiadau bod plentyn ar goll ben bore dydd Sadwrn (Gorffennaf 31).

Mae tri o bobol – dynes 30 oed, dyn 39, a bachgen 13, sydd i gyd yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio’r bachgen.

Dydi Heddlu De Cymru ddim yn chwilio am neb arall.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, ac mae’r heddlu yn galw am wybodaeth gan dystion yn yr ardal ar y pryd ynghylch sut aeth y plentyn i’r dŵr.

Mae ffrindiau’r teulu wedi talu teyrnged i’r bachgen “annwyl, doniol, cwrtais, golygus a galluog” ar y cyfryngau cymdeithasol.

Maen nhw’n annog unrhyw un sydd eisiau talu teyrnged iddo i wneud hynny drwy osod tedis ger golau stryd a phont droed wrth ymyl safle’r digwyddiad.

Apelio am wybodaeth

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig lle collodd plentyn ifanc ei fywyd,” meddai’r prif arolygydd Geraint White o Heddlu’r De.

“Rydyn ni’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â ni.

“Gofynnwn i’r cyhoedd beidio â thrafod ar y cyfryngau cymdeithasol beth allai fod wedi digwydd gan fod hwn yn ymchwiliad gweithredol.

“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth all helpu, plîs adroddwch hynny wrthon ni.

“Mae ein meddyliau gyda’r teulu ac rydyn ni’n eu cefnogi nhw ym mhob ffordd y gallwn ni.”

Dywedodd Geraint White fod “cysylltiad cyson” gyda theulu’r bachgen, sy’n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

“Bydd y tîm plismona yn y gymdogaeth leol yn parhau i gefnogi a siarad gyda phreswylwyr yr ardal, a dw i’n annog pobol i siarad â nhw os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.

“Rydyn ni’n cydnabod fod yna lot o bobol yn y gymuned leol a fyddai’n hoffi atebion ynghylch yr hyn ddigwyddodd iddo.

“Rydyn ni’n cadw meddwl agored ac yn gweithio’n galed i ddod i gasgliad ynghylch amgylchiadau llawn ei farwolaeth fel ein bod ni’n gallu cynnig atebion i’w deulu.

“Mae hwn yn ymchwiliad eang a sensitif ac mae nifer o bobol wedi cael eu heffeithio gan ei farwolaeth.”

Diolchodd Geraint White i’r gymuned leol am eu “dealltwriaeth a’u cefnogaeth”.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De.

Logo Golwg360

Marwolaeth bachgen pump oed: tri o bobol wedi’u harestio

Dyn 39 oed, dynes 30 oed a bachgen 13 oed yn cael eu holi ar amheuaeth o lofruddio
Logo Golwg360

Darganfod corff bachgen ifanc mewn afon ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5.45 y bore yma (dydd Sadwrn) yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll yn ardal Sarn