Mae sefydliadau ymchwil Cymru yn llwyddo i gael canlyniadau llawer gwell na’r disgwyl yn ôl eu maint, yn ôl adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Awst 2).

Mae Asesiad o Sail Ymchwil Cymru yn Seiliedig ar Berfformiad (2010-2018) yn edrych ar y gwaith ymchwil a wnaed gan brifysgolion, partneriaethau a sefydliadau eraill Cymru rhwng 2010 a 2018.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan yr Athro Peter Halligan, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, ac fe gafodd ei gynnal gan Elsevier, cwmni dadansoddi gwybodaeth ryngwladol.

Mae’r adroddiad yn dangos bod Cymru, dros yr ugain mlynedd diwethaf, wedi dod yn un o wledydd mwyaf effeithlon y Deyrnas Unedig o ran trosi lefelau cymharol fach o gyllid yn waith ymchwil arloesol.

Er mai dim ond 0.1% o ymchwilwyr y byd a 0.05% o’r cyllid ymchwil a datblygu byd-eang sydd gan Gymru, mae’n llwyddo i gynhyrchu 0.3% o erthyglau ymchwil y byd; 0.5% o’r dyfyniadau a 0.5% o’r erthyglau a ddyfynnir amlaf.

Canfyddiadau eraill

Mae rhai o ganfyddiadau eraill yr adroddiad fel a ganlyn:

  • Mae cyfran Cymru o’r 5% o gyhoeddiadau a gaiff eu dyfynnu amlaf ddwywaith y gyfartaledd fyd-eang;
  • Mae effaith ymchwil Cymru o ran dyfyniadau 80% yn uwch na’r gyfartaledd fyd-eang a 13% yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig;
  • Er gwaethaf sylfaen ymchwil gymharol fach, mae Cymru’n effeithlon iawn o ran allbwn yn erbyn gwariant;
  • Cynyddodd y cydweithio rhwng corfforaethau a sefydliadau academaidd yng Nghymru o un rhan o bump rhwng 2010 a 2018;
  • Mae gan Gymru 3.4% o holl ymchwilwyr y Deyrnas Unedig, ond maen nhw’n cynhyrchu 4% o waith ymchwil y Deyrnas Unedig.
  • Cafodd dros hanner allbwn ymchwil Cymru ei gynhyrchu drwy gydweithrediad rhyngwladol.

‘Rhagori ar ei faint’

“Dyma enghraifft arall eto o sector yng Nghymru yn rhagori ar ei faint, gyda’n sefydliadau ymchwil, prifysgolion a phartneriaethau yn cynhyrchu gwaith ymchwil o bwys rhyngwladol,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

“Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld gwerth aruthrol gwaith ymchwil gwyddonol da – ac mae’n arbennig o galonogol nodi mai’r gwyddorau naturiol a gwyddor feddygol ac iechyd yw ein meysydd pwnc mwyaf cynhyrchiol, sy’n cyfrif am 54% a 39% yn eu trefn o holl allbwn gwaith ymchwil Cymru.

“Er bod y dull gweithredu effeithlon y mae ein sector ymchwil wedi’i ddefnyddio a’i lwyddiannau yn haeddu canmoliaeth, mae’r sector yn parhau i wynebu heriau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, wrth i’r rhesel yn y Deyrnas Unedig godi a chyfyngu ar y cyllid sydd ar gael, a chystadleuaeth amdano ddwysáu.”

“Potensial mawr”

“Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n dangos bod ein hymchwilwyr ymhlith y rhai mwyaf effeithlon ac effeithiol, ymysg gwledydd bach, o ran trosi lefelau cymharol isel o incwm ymchwil yn waith ymchwil cyhoeddedig uchel ei barch, sy’n dod â manteision sylweddol, yn economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac o ran iechyd, i bobl a chymunedau yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi sy’n gyfrifol am wyddoniaeth ac ymchwil y Llywodraeth Cymru.

“Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf hon yn dangos yn eglur bod gan Gymru botensial mawr ar gyfer y dyfodol i ddal ati i gynyddu arloesedd a chydweithio ar ragor o waith ymchwil.

“Mae ganddi hefyd y potensial i ddatblygu perthnasoedd byd-eang a chreu cyfleoedd newydd i fewnfuddsoddi, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais o greu swyddi newydd o ansawdd uchel yn niwydiannau’r dyfodol.”