Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am stormydd yn y de-ddwyrain.

Cafodd y rhybudd melyn ei gyhoeddi fore heddiw (dydd Llun, Awst 2) am 9:42yb, ac fe fydd mewn grym tan 11:00yh heno.

Mae’n berthnasol ar gyfer y rhan fwyaf o siroedd y de-ddwyrain – Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Thorfaen – yn ogystal â rhannau o dde Powys.

Gallai’r stormydd fod yn araf yn symud, meddai’r Swyddfa Dywydd, gan barhau am awr neu ddwy.

Mae’n bosib y bydd mellt a chenllysg, a gallai 50mm o law ddisgyn mewn ychydig oriau mewn rhai llefydd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod perygl y gallai cawodydd trwm o law achosi llifogydd, a chreu oedi i deithwyr hefyd.