Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd y rhaglen I’m a Celebrity Get Me Out Of Here yn dychwelyd i Gastell Gwrych am yr ail flwyddyn yn olynol.
Daw hyn yn sgil gofidion bod teithio a ffilmio’r rhaglen yn Awstralia’n “rhy anodd” oherwydd cyfyngiadau teithio.
Mae Awstralia wedi rhybuddio y bydd ffiniau rhyngwladol yn aros ar gau am gyfnod amhenodol.
Mae Scott Morrison, prif weinidog Awstralia, wedi dweud y byddai ailagor yn rhy fuan yn arwain at gynnydd mawr mewn achosion Covid-19 yn y wlad – gyda’r Gweinidog Cyllid Simon Birmingham yn gwthio’r dyddiad ailagor teithio yn ôl hyd at 2022.
Yn ôl The Mirror, “mae’n debyg bod trafodaethau’n parhau yn ITV” tra bod Castell Gwrych “wedi cytuno” i gynnal I’m A Celebrity… eto eleni.
“Mae’r logisteg sy’n gysylltiedig â cheisio cael y tîm cynhyrchu cyfan ynghyd ag enwogion, cyflwynwyr a’r holl deuluoedd i ochr arall y byd yng nghanol y cyfyngiadau teithio parhaus rhy anodd eleni,” meddai un ffynhonnell.
“Bydd y sioe yng Nghymru eto a bydd yn wych, yn union fel y llynedd.”
Roedd y gyfres yn llwyddiant y llynedd er iddi symud i Gymru yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.
Hon oedd yr ail gyfres fwyaf poblogaidd ers i’r rhaglen ddechrau, gyda’r bennod gyntaf yn denu 14.3m o wylwyr.